Skip to main content

Gwaith celf sy'n dathlu'r gymuned a'r wlad i ddod â bywyd i danffordd

Tonyrefail grid - Copy

Mae pobl ifainc yn Nhonyrefail yn gweithio gyda'r artist graffiti enwog, ‘Tee2Sugars’, i greu murlun bywiog a lliwgar sy'n dathlu Cymru a'u cymuned. Mae'r prosiect cyffrous yn cael ei ariannu gan y Cyngor, a hynny'n rhan o waith gosod pont droed newydd a gafodd ei gwblhau'n lleol yn gynharach eleni.

Mae grŵp o ddisgyblion o Ysgol Gymuned Tonyrefail wedi helpu i ddylunio'r murlun. Bydd un ochr y gwaith celf yn dangos llythrennau mawr 'Tonyrefail' ac yn cynnwys themâu Cymreig traddodiadol megis cennin Pedr a hanes ein pyllau glo, yn ogystal ag einion, sef symbol y pentref. Ar yr ochr arall, bydd gan y murlun luniau cartŵn o bobl ifainc yn darllen ac yn ysgrifennu.

Syniad Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) y Cyngor oedd y prosiect yn wreiddiol. Gweithiodd y gwasanaeth gyda chydweithwyr carfan Strwythurau'r Priffyrdd i gael gwybod a fyddai modd cynnwys prosiect cymunedol yn rhan o waith gosod pont droed newydd Tyn-y-bryn. Cafodd tanffordd gyfagos sy'n cysylltu â Heol Tynybryn ei thrwsio, ei hadnewyddu a'i hailbaentio yn rhan o'r cynllun hwnnw.

Cafodd y murlun ei ddatblygu ymhellach yn rhan o wasanaeth ieuenctid y Cyngor yn yr ardal leol – ac roedd y bobl ifainc yn hoff iawn o'r syniad o greu prosiect celf yn y danffordd, a hynny er mwyn dod â bywyd i'r lleoliad. Mae Cydlynydd Cyfleoedd Ieuenctid yn y Gymuned YEPS wedi gweithio'n agos gydag Ysgol Gymuned Tonyrefail ers hynny, ac roedd yr ysgol yn edrych ymlaen at y prosiect yn rhan o'i gweithgareddau allgymorth cymunedol ehangach. Mae carfan Strwythurau Priffyrdd y Cyngor wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y prosiect.

Mae ‘Tee2Sugars’ yn dod o Dde Cymru ac wedi cwblhau gwaith celf gwych yn y gymuned – gan gynnwys y murlun enfawr ar adeilad ar Stryd y Felin ym Mhontypridd, sy'n dathlu cynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Aeth i gwrdd â disgyblion Tonyrefail i ddatblygu eu dyluniad, a dechreuodd y grŵp y broses o baentio'r murlun yn ddiweddar. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn y mis nesaf.

Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cyfranogiad Pobl Ifainc: “Mae wedi bod yn wych gweld pawb yn dod at ei gilydd i ddatblygu'r prosiect cymunedol yma – ac mae'n wych cael gwybod bod y bobl ifainc wedi dechrau paentio'r murlun. Mae ein carfan YEPS yn gweithio mor galed, a hynny trwy waith mewn ysgolion ac yn y gymuned, i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifainc. Mae prosiectau fel yr un yma yn helpu i ddatblygu gwaith tîm, ymroddiad ac ymdeimlad o falchder yn eu hardal leol.

“Mae ein hadran y Priffyrdd hefyd wedi chwarae rôl allweddol o ran sicrhau murlun yn dilyn ei gwaith gosod Pont Droed newydd Tyn-y-bryn, a gafodd ei gwblhau'n gynharach eleni. Yn olaf, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect o Ysgol Gymuned Tonyrefail – mae brwdfrydedd y disgyblion wedi gyrru'r syniad ar gyfer y murlun yn ei flaen, a hynny wrth weithio'n agos gyda ‘Tee2Sugars’ sy'n wych. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith celf yn y gymuned yn fuan!”

Wedi ei bostio ar 09/10/24