Skip to main content

Cau ffordd yn ardal Porth er mwyn cynnal gwaith amnewid draen storm

Hillcrest Drive in Porth

Dyma roi gwybod i drigolion y bydd y ffordd ger Rhodfa Ael y Bryn, Porth yn cau er mwyn amnewid draen storm sydd wedi'i ddifrodi ac adeiladu twll archwilio.

Bydd rhan 40 metr o hyd o'r ffordd ger cyffordd Rhodfa Ael y Bryn â Ffordd Kimberley yn cau o ddydd Llun, 24 Mehefin am gyfnod o bythefnos.

Mae'r cynllun wedi'i lywio gan arolwg TCC, a oedd yn cynnwys cynnal archwiliadau yn dilyn adroddiadau am ddŵr llifogydd yn llifo i lawr y ffordd.

Bydd y draen storm newydd yn rheoli llif y dŵr yn well yn ystod cyfnodau o law trwm a bydd y twll archwilio newydd yn sicrhau bod modd cael mynediad gwell wrth gynnal arolygon yn y dyfodol.

Bydd arwyddion yn nodi’r llwybr amgen ar gyfer modurwyr pan fydd y ffordd ar gau - ewch ar hyd Stryd Wyndham, Gwaun Bedw a Ffordd Kimberley - neu mae modd dilyn y gwyriad yma am yn ôl.

Fydd dim mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, ond bydd mynediad i gerddwyr ac i eiddo. 

Dylai beicwyr un ai ddod oddi ar eu beic a dilyn y llwybr i gerddwyr, neu ddilyn y llwybr amgen.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 17/06/2024