Skip to main content

Cynllun atgyweirio sylweddol ar gwlfer yn Stryd y Nant yn Aberaman

Mae trigolion Aberaman yn cael rhybudd ymlaen llaw o gynllun hanfodol sydd ar y gweill yn Stryd y Nant a Stryd Bryn y Mynydd i atgyweirio cwlfer cwrs dŵr cyffredin. Mae’r gwaith yn debygol o achosi rhywfaint o aflonyddwch yn lleol.

Bydd y cynllun yn cynnwys atgyweiriadau a gwelliannau sylweddol i'r briffordd ar Stryd Bryn y Mynydd ac ar dir preifat yn Stryd y Nant a fydd, o'i adael fel y mae, yn rhoi nifer o eiddo lleol mewn perygl. Gallai hefyd achosi perygl pellach o lifogydd ymhellach i lawr rhwydwaith y cwrs dŵr.

Mae'r Cyngor wedi penodi Arch Services i gyflawni'r gwaith, a bydd trigolion yn sylwi ar weithgarwch cychwynnol y contractwr i sefydlu ei safle o ddydd Llun, 1 Gorffennaf. Bydd y gwaith yn mynd rhagddo drwy gydol yr haf ac yn dod i ben yn gynnar yn yr hydref (2024).

Bydd angen cau ffordd unwaith y bydd y prif gynllun yn dechrau yn ddiweddarach ym mis Gorffennaf 2024 – tra bydd angen sefydlu safle ar gyfer storio peiriannau/offer yn lleol. Yn anffodus, ni fydd modd osgoi tarfu ar drefniadau parcio trigolion. Mae'r manylion terfynol yn cael eu pennu ar hyn o bryd a bydd trigolion yn cael gwybod am y trefniadau yma maes o law.

Bydd contractwr y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i leihau aflonyddwch, a bydd yn cynnal mynediad i bob eiddo. Bydd trigolion lleol sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y gwaith yn derbyn llythyr a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y trefniadau terfynol.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Hoffen ni ddiolch ymlaen llaw i drigolion am dderbyn y cynllun pwysig yma yn Aberaman, a fydd yn cynnwys gwaith atgyweirio sylweddol ar y cwlfer yn Stryd y Nant. Yn anffodus, bydd hyn yn achosi aflonyddwch traffig a pharcio nad oes modd ei osgoi yn Stryd y Nant a Stryd Bryn y Mynydd, ond mae'r gwaith yn hanfodol er mwyn diogelu eiddo lleol a lliniaru'r perygl o lifogydd ymhellach i lawr yr afon yn ystod cyfnodau o law trwm.

"Bydd trigolion yn sylwi ar weithgarwch cychwynnol y contractwr i sefydlu ei safle gwaith o wythnos gyntaf mis Gorffennaf 2024, ac yna bydd y prif gynllun, a fydd yn cynnwys cau'r ffordd, yn dechrau yn ddiweddarach yn y mis. Mae'r manylion terfynol yn cael eu pennu ar hyn o bryd, a bydd trigolion yn cael gwybod am y trefniadau yma unwaith y byddan nhw'n wedi’u cadarnhau. Hoffwn i bwysleisio y byddwn ni'n gweithio'n agos gyda'n contractwr i leihau aflonyddwch lleol cymaint â phosibl."

Wedi ei bostio ar 19/06/2024