Skip to main content

Dathlu 10 mlynedd o'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid!

YEPS Snipped

Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor yn falch iawn o gyhoeddi ei ben-blwydd yn 10 oed! Ers ei sefydlu ar 2 Mehefin 2014, mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid wedi cyflawni swyddogaeth greiddiol wrth gynorthwyo pobl ifainc (rhwng 11 a 25 oed) Rhondda Cynon Taf.

Mae'r Gwasanaeth yn darparu llinell gymorth i dros 10,000 o unigolion ifainc bob blwyddyn. Mae’n cynnig cymorth drwy ein hysgolion lleol ac yn gweithio gyda phobl ifainc yn y gymuned. Mae swyddogion y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn darparu ystod eang o gymorth mewn perthynas â meysydd megis iechyd meddwl a lles, cyngor a chanllawiau atal digartrefedd, perthnasoedd, arian, sesiynau am hawliau a rhagor. Mae Carfan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn sicrhau nad oes unrhyw berson ifanc yn wynebu unrhyw rai o'r problemau yma ar eu pennau eu hunain.

Dyw'r cymorth ddim yn dod i ben pan maen nhw'n gadael yr ysgol ychwaith. Mae gyda'r Gwasanaeth raglen cymorth penodol ar gyfer unigolion sy'n 16 oed a hŷn, sy'n cynorthwyo pobl ifainc wrth iddyn nhw gamu i fyd oedolion gan helpu i oresgyn cymhlethdodau dod o hyd i addysg bellach, gwaith a hyfforddiant. Yma yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n credu bod grymuso pobl ifainc i ddefnyddio eu llais yn magu cydnerthedd, hyder ac annibyniaeth.

Meddai'r Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod o'r Cabinet ar faterion y Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Ieuenctid a Newid yn yr Hinsawdd: "Rwy'n falch iawn i ddweud fod y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed y mis yma. Dros y degawd ddiwethaf, mae'r Gwasanaeth wedi bod yn cynnig gobaith i bobl ifainc Rhondda Cynon Taf.

"Mae'r Gwasanaeth wedi cael effaith sylweddol ar ein cymuned drwy ddarparu cyngor a chymorth, ymgysylltu â'r gymuned a gweithio tuag at rymuso ein pobl ifainc.

"Wrth i ni ddathlu'r garreg filltir yma, rwyf eisiau diolch yn fawr iawn i'r bobl ifainc, y teuluoedd, y swyddogion a’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o'r daith anhygoel yma."

Mae'r Gwasanaeth hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau AM DDIM yn y gymuned ar gyfer pobl ifainc (rhwng 11 a 25 oed), gan gynnwys:

  • Clybiau ieuenctid: Mae'r Gwasanaeth yn cynnal amrywiaeth o glybiau ieuenctid ar gyfer y bobl ifainc lleol. Mae'r rhain yn lleoedd bywiog sy'n annog cyfathrebu, creadigrwydd a chynnydd personol. Maen nhw'n galluogi i'r bobl ifainc gysylltu â'i gilydd a gweithio ar brosiectau ystyrlon o'u dewis eu hunain. Dewch o hyd i Glybiau Ieuenctid yn eich ardal chi drwy glicio yma.
  • Y Fan Ieuenctid Symudol: Mae'r Fan ieuenctid Symudol yn fenter newydd sy'n teithio i ardaloedd gwahanol ledled Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys ysgolion, clybiau ieuenctid a gweithgareddau cymunedol eraill. Diben y fan yw darparu gwybodaeth i bobl ifainc yn ogystal â gweithgareddau megis gemau, chwaraeon a chelf a chrefft! Dysgwch ragor am y fan a lleoliadau bydd y fan yn ymweld â nhw yn y dyfodol yma
  • Sesiynau Stryd: Mae'r rhain wedi'u lleoli mewn sawl lleoliad ledled Rhondda Cynon Taf er mwyn diwallu anghenion pobl ifainc.
  • Gweithgareddau a theithiau yn ystod gwyliau'r ysgol: Mae'r Gwasanaeth  yn trefnu teithiau cyffrous ac addysgiadol yn ystod gwyliau'r ysgol, gan ddarparu cyfleoedd pellach i bobl ifainc ddysgu a datblygu eu sgiliau y tu allan i oriau ysgol. Mae gweithgareddau lleol hefyd yn cael eu trefnu ar gyfer pobl ifainc yn ystod gwyliau'r haf.
  • Sesiynau Galw Heibio i'r Gymuned: Os ydych chi'n chwilio am gymorth neu sgwrs gyfeillgar, mae'r Gwasanaeth yn darparu sesiynau galw heibio i'r gymuned lle mae modd i bobl ifainc gael mynediad at gymorth am ddim.

Mae'r Gwasanaeth hefyd yn darparu cyfleodd i oedolion sy'n angerddol am gynorthwyo pobl ifainc a rhoi'n ôl i'r gymuned drwy wirfoddoli. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli a'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, cysylltwch â'r garfan drwy e-bostio YEPSgwirfoddolwyr@rctcbc.gov.uk. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.yeps.wales/cy/amdanom-ni/gwirfoddoli-gyda-yeps/

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, y gwaith mae'n ei wneud, neu i gymryd rhan, ewch i’r wefan: https://www.yeps.wales/cy/

Gallwch chi hefyd lawrlwytho’r ap NEWYDD ar gyfer dyfeisiau symudol: https://www.yeps.wales/cy/info/ap-yeps/

Wedi ei bostio ar 28/06/2024