Skip to main content

Trefniadau traffig newydd ar gyfer prosiect neuadd bingo Pontypridd o fis Gorffennaf

Ponty bingo hall 4

Bydd cyfres o newidiadau i'r trefniadau rheoli traffig sydd ar waith o amgylch safle neuadd bingo Pontypridd yn cael eu cyflwyno o ddechrau mis Gorffennaf. Bydd y rhain yn cael eu rheoli'n ofalus i gynnal llif y traffig, yn enwedig ar adegau prysur.

Dechreuodd y gwaith i ailddatblygu'r safle’n fan bywiog i’r cyhoedd a chreu cilfachau bysiau newydd i wasanaethau pen deheuol canol y dref, ym mis Chwefror 2024. Mae'r cynllun ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau'r haf yma, fel y cynlluniwyd.

Ers camau cynnar y cynllun, mae'r lôn tua'r de sydd agosaf at safle'r hen neuadd bingo wedi parhau i fod ar gau er mwyn hwyluso’r gwaith. Serch hynny, ar ddechrau mis Gorffennaf 2024, bydd y trefniadau traffig yn cael eu haddasu fel a ganlyn:

  • Dydd Llun, 1 Gorffennaf (tua phythefnos)  – bydd y lôn chwith tua'r de sydd agosaf at safle'r gwaith yn ailagor, a bydd y lôn dde tua'r de yn cau – a fydd y troad i'r dde i'r Graig ddim ar gael. Dylai modurwyr ddilyn y gwyriad sy’n mynd ar hyd Cylchfan Sainsbury's a chymryd y troad i'r chwith i'r Graig o Broadway (yr A4058). Bydd yr ynys draffig gyferbyn â safle'r gwaith hefyd yn cau. Dylai cerddwyr ddefnyddio'r man croesi ger Tŷ Sardis.
  • Dydd Mercher 3ydd, Dydd Mawrth 9fed a Dydd Mercher 10 Gorffennaf (8am tan 3pm)  – bydd y lôn dde tua'r gogledd yn cau dros dro er mwyn cael gwared â dwy olau stryd a thynnu a gosod canllaw o amgylch y perimedr. Mae’r gwaith yma, sy’n cynnwys cau’r lôn, wedi’i amserlennu i osgoi'r adegau teithio prysuraf yn hwyr yn y prynhawn/yn gynnar gyda'r nos.
  • Dydd Llun i Ddydd Iau, 8-11 Gorffennaf – bydd y goleuadau traffig pedair ffordd presennol ar y gyffordd ger safle'r neuadd bingo yn cael eu disodli gan oleuadau traffig pedair ffordd dros dro. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ailosod y goleuadau traffig presennol ar y gyffordd tra bydd gwaith gosod ceblau hefyd yn cael ei gwblhau.

Bydd angen cyflwyno rhagor o gynlluniau rheoli traffig tua diwedd mis Gorffennaf, a byddwn ni'n rhoi gwybod am y rhain unwaith y bydd y trefniadau terfynol wedi'u pennu. Bydd contractwr y Cyngor, Knights Brown, yn gwneud popeth o fewn ei allu i leihau aflonyddwch yn ystod y gwaith angenrheidiol yma wrth i'r prosiect agosáu at gael ei gwblhau'r haf yma.

Wedi ei bostio ar 24/06/24