Skip to main content

Cau maes parcio ym Mhontypridd er mwyn cynnal gwaith pellach

Berw Road car park - Copy

Bydd maes parcio Heol Berw yng nghanol tref Pontypridd ar gau am bythefnos o 24 Mehefin er mwyn cynnal gwaith atgyweirio concrit.

Bydd y maes parcio cyhoeddus ger Gorsaf yr Heddlu, Pontypridd, yn cau o ddydd Llun 24 Mehefin. Y bwriad yw ailagor y maes parcio i ymwelwyr â chanol y dref o ddydd Llun 8 Gorffennaf ond mae'n bosibl y bydd yn ailagor cyn hynny gan ddibynnu ar gynnydd. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i'r amserlen ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r gwaith yma'n dilyn gwaith glanhau trylwyr a gwaith hanfodol a gafodd ei gynnal yn ddiweddar rhwng 20 Mai a 3 Mehefin. Mae hysbysiadau safle sy'n amlinellu'r gwaith atgyweirio concrit ychwanegol yn cael eu gosod yn y maes parcio.

Mae meysydd parcio eraill ar gael o amgylch canol tref Pontypridd. Mae'r rhain yn cynnwys pum maes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor - Maes Parcio Heol y Weithfa Nwy (cyfnod byr, ar agor 24 awr o'r dydd), Maes Parcio Iard Nwyddau (cyfnod hir, ar agor 24 awr o'r dydd), Maes Parcio Dôl-y-felin (cyfnod hir, ar agor 24 awr o'r dydd), Maes Parcio Stryd y Santes Catrin (cyfnod hir, ar agor 7am-7pm) a Maes Parcio Heol Sardis (cyfnod hir, ar agor 7am-7pm).

Hoffen ni ddiolch i drigolion ac ymwelwyr â chanol tref Pontypridd ymlaen llaw am eich cydweithrediad wrth i'r gwaith diweddaraf gael ei gynnal.

Wedi ei bostio ar 19/06/24