Skip to main content

DIRWY i gwmni ceir yng Pentre

Cafodd cwmni ceir yng Nghwm Rhondda a'i gyfarwyddwr ddirwy am dorri deddfwriaeth sydd â nod i ddiogelu cwsmeriaid mewn perthynas â gwerthu car. 

Cafodd y gwerthwr o ardal Pentre ei ddal a'i ddwyn i gyfrif am gamarwain cwsmeriaid am gerbydau roedd e'n eu gwerthu yn M&H Cars Limited ar Stryd Catrin, Pentre.

Cafodd Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf wybod am rai materion ar y safle cyn ymweld â Mr Jamie Green, Cyfarwyddwr M&H Cars Limited gan ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â'i rwymedigaeth i'w gwsmeriaid yn fusnes gwerthu ceir ac am hawliau cwsmeriaid. Gwrthododd Mr Green gydweithio â'r swyddogion yn ogystal â gwrthod derbyn cyfweliad mewn perthynas â'r materion.

Yn ystod yr ymweliad, darganfyddodd y Swyddogion dri throsedd posibl oedd yn groes i Reoliadau Diogelu Defnyddiwr a Masnachu Annheg 2008 mewn perthynas â'r disgrifiadau roedd Mr Green wedi'u gosod ar gerbyd oedd yn anwir.

Gorchmynnwyd i Mr Green ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful ar 12 Mehefin 2024. Roedd Mr Green yn bresennol yn y llys gan bledio'n euog i bob cyhuddiad. Fe'i herlynwyd am y tri throsedd (am iddo weithredu'n groes i Reoliadau Diogelu Defnyddiwr a Masnachu Annheg 2008 mewn perthynas â disgrifiadau oedd wedi'u gosod ganddo ar gerbyd oedd yn anwir).  

Roedd y troseddau yn cynnwys nodi cyfanswm y milltiroedd roedd cerbyd wedi'i deithio yn anghywir, 63,000, mewn gwirionedd, roedd y cerbyd wedi teithio 63,574 yn ogystal â nodi fod y car yn meddu ar chwaraeydd CD a system Sat Nav. Fodd bynnag, wedi archwilio, doedd y car ddim yn meddu ar chwaraeydd CD na system Sat Nav.

Yn ei ble lliniaru fe nododd nad oedd wedi cyflawni diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â'r cerbyd yma. Roedd wedi cymryd yn ganiataol bod y sgrin ryngweithiol yn y cerbyd yn meddu ar chwaraeydd CD a bod system Sat Nav am fod botwm yn bresennol, nid oedd yn ymwybodol fod y tanysgrifiad wedi dod i ben ac yn costio £40 am 5 mlynedd. Nododd hefyd nad oedd wedi cyflawni diwydrywdd dyladwy mewn perthynas â nodi cyfanswm cywir nifer y milltiroedd roedd y cerbyd wedi'i deithio.

Derbyniodd Mr Green ddirwy o £2,132.12 - Dirwy o £120, Costau gwerth £1,674.12, iawndal gwerth £290, Gordal Dioddefwr £48.

Meddai Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned: "Mae'n hanfodol bwysig fod unrhyw un sy'n berchen ar neu'n cynnal busnes yn ymgyfarwyddo â deddfwriaeth mewn perthynas â defnyddwyr. Mae'r achos yma yn dangos nad yw anwybodaeth yn esgus.

"Rwy'n falch fod Llys yr Ynadon wedi cydnabod difrifoldeb y troseddau yma a bod ein Carfan Safonau Masnach wedi helpu'r cwsmer yma i dderbyn cyfiawnder gan atal unrhyw achosion eraill gobeithio".Heal;hh 

Am ragor o wybodaeth yn ymwneud â Safonau Masnach, Pwysau a Mesurau a Chyngor i Ddefnyddwyr, ewch i www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach

Mae modd i chi roi gwybod i ni am Weithgarwch Anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein

Wedi ei bostio ar 24/06/24