Skip to main content

Gwobr arall i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

award

Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn falch o fod yr unig un yng Nghymru i dderbyn Statws Cyfeillgar i Goetsis Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr!

Mae coetsis yn dod o bob cwr o'r DU a thu hwnt i gael profiad o'r arlwy gwych i grwpiau yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.  O'r foment y caiff y goets ei chroesawu i mewn i'r maes parcio mawr, am ddim, mae grwpiau'n cael eu diddanu gyda phecynnau unigryw, gan gynnwys perfformiadau gan gorau meibion eiconig, opsiynau arlwyo gwych ac wrth gwrs, y prif atyniad, Taith Dywys Danddaearol yr Aur Du.  Mae ymwelwyr yn gwisgo helmed glöwr ac yn mynd dan ddaear yng nghwmni ein tywyswyr sy'n gyn-lowyr a weithiodd ym mhyllau glo Cwm Rhondda. Mae gyda nhw lawer o straeon diddorol am fywyd dan ddaear.  Teg dweud bod pob taith yn wahanol gan fod gan ein tywyswyr lawer o ffeithiau, straeon (ac ambell jôc)!

Mae'r arddangosfa ryngweithiol newydd sbon hefyd yn boblogaidd iawn ymhlith ymwelwyr.  Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar safle Pwll Glo Lewis Merthyr yn Nhrehafod ger Pontypridd, ac mae’r arddangosfa’n dod â’r hen bwll glo yn fyw wrth i ymwelwyr weld ei stori’n datblygu ar y sgrîn. Mae’r ystod o bynciau a gynigir yn ymestyn o 1809 hyd at gau Glofa’r Tŵr - y pwll glo dwfn olaf yn Ne Cymru yn 2008, sy’n golygu mai dyma’r arddangosfa ryngweithiol fwyaf cynhwysfawr a hynod ddiddorol ar fywyd a hanes glofaol De Cymru.

 

Mae'n cynnwys ffilmiau hanesyddol o'r archifau, dros 140 o arteffactau a phosau jig-so ar sgriniau cyffwrdd, cwisiau a llawer yn rhagor. Mae'n taflu goleuni ar hanes pyllau glo, gan gynnwys Streic y Glowyr, y Rhuthr am Lo Cwm Rhondda a mwy. 

Gall ymwelwyr sgrolio drwy'r sgriniau yn eu hamser eu hunain ac mae'r holl gynnwys ar gael yn y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg a Tsieinëeg!  Mae'r sgrîn fwyaf hefyd yn cynnwys elfen Iaith Arwyddion Prydain.

Yn ogystal â hyn, gall twristiaid sy'n cyrraedd ar goets fwynhau pecynnau diwrnod a 2 ddiwrnod drwy drefnu pecynnau megis Arian, Glo ac Iechyd Da, Y Geiniog a'r Glo a llawer yn rhagor.  Mae'r pecynnau yma'n cynnwys teithio trwy Rondda Cynon Taf a Bro Morgannwg i ymweld â Phrofiad y Bathdy Brenhinol a Distyllfa Castell Hensol lle gall ymwelwyr fwynhau teithiau, bathu'u darnau arian eu hunain a blasu jin.

Mae pecyn newydd gyda Distyllfa Penderyn bellach ar gael lle mae grwpiau'n teithio trwy olygfeydd hardd Rhondda Cynon Taf, i droedfryniau'r Bannau Brycheiniog, er mwyn ymweld â Distyllfa Penderyn – distyllfa wisgi gyntaf Cymru ers dros 100 o flynyddoedd. Gall ymwelwyr fynd ar daith o'r ddistyllfa, dysgu am y broses o wneud wisgi ac ymweld â'r bar blasu.

Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr yw llais diwydiant bysiau a choetsis y DU, gan helpu'r diwydiant hwnnw i ddarparu teithiau gwell i bawb, creu cymunedau mwy gwyrdd a darparu twf economaidd.

Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn falch o gefnogi'r nodau yma ac o gynnig ystod o opsiynau ar gyfer diwydiant twristiaeth coetsis.

Am ragor o wybodaeth am ein harlwy i grwpiau yn y lleoliad, cliciwch yma neu ffoniwch 01443 682036.https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Tourism/RhonddaHeritagePark/GroupTours/GroupVisits.aspx

Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar agor i grwpiau ysgol ac ymwelwyr rhwng 9am a 4.30pm dydd Mawrth i ddydd Sadwrn.  Mae ein harddangosfeydd yn rhad ac am ddim ac mae modd trefnu taith dan ddaear, ymahttps://www.rctcbc.gov.uk/CY/Tourism/RhonddaHeritagePark/Home.aspx

Dilynwch ni ar Facebook a Twitter i gael yr wybodaeth ddiweddaraf a chyhoeddiadau am achlysuron.

 

Wedi ei bostio ar 20/06/2024