Skip to main content

Codi pont dros nos yn rhan o gynllun deuoli'r A4119 er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl

A4119 image resized (3)

Rhaid cau'r A4119 dros ddwy noson rhwng cylchfannau Coedelái ac Ynysmaerdy (9pm tan 6am, 27 a 28 Mehefin) er mwyn codi pont droed newydd i'w lle yn ddiogel yn rhan o gynllun parhaus i ddeuoli'r ffordd.

Bydd Alun Griffiths (Contractors) Ltd yn cynnal y gwaith codi pont, mewn lleoliad i'r de o gylchfan Coedelái, dros ddwy sifft waith nos. Bydd y rhain rhwng 9pm a 6am ddydd Iau, 27 Mehefin, a dydd Gwener 28 Mehefin - gan ddibynnu ar y tywydd. Bydd y gwaith yn dod i ben erbyn 6am ddydd Sadwrn, 29 Mehefin.

Bydd craen 220 tunnell yn cael ei osod ar y ffordd er mwyn codi'r bont droed gyda chaen llai yn cynorthwyo â'r gwaith hefyd. O ganlyniad, er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd a'r gweithlu, does dim modd codi'r bont i'w lle heb gau'r ffordd. Bwriad cau'r ffordd dros nos yw tarfu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr y ffordd.

Bydd yr A4119 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng cylchfan Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a chylchfan Coedelái. Bydd llwybr arall ar gael i fodurwyr ar hyd yr A4119 i Gylchfan Tonypandy, yr A4058 i Bontypridd, yr A470 i Gylchfan Glan-bad, Heol Tonteg, a'r A473 i Lantrisant. Fydd dim mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys.

Bydd trefniadau bws dros dro ar waith ar gyfer llwybrau lleol drwy gydol y cyfnod pan fydd y ffordd ar gau. Bydd Gwasanaeth 122 (Caerdydd-Tonypandy) yn dargyfeirio drwy Bontypridd ac ardal Porth.

Bydd gwasanaeth bws gwennol dros dro ar gael rhwng Tonypandy a Choedelái ar y ddwy noson. Dyma wasanaeth AM DDIM fydd yn cael ei weithredu gan Stagecoach, gan ddilyn llwybr arferol y bws o Goedelái i Donyrefail, Trewiliam a Gorsaf Fysiau Tonypandy (i'r ddau gyfeiriad). Mae'r amserlen lawn i’w gweld yma.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae codi'r bont droed a rennir i'w lle ger cylchfan Coedelái yn nodi carreg filltir bwysig yng nghynllun deuoli'r A4119. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y safle'r llynedd ac mae'n parhau â'r cynnydd er mwyn dod â’r gwaith i ben yn ddiweddarach eleni. Rhaid cau'r ffordd yn gyfan gwbl i sicrhau diogelwch yn ystod gwaith codi'r bont. Bydd hyn yn cael ei gynnal dros ddwy sifft waith nos ar 27 a 28 Mehefin, gan ddibynnu ar y tywydd.

"Mae'r gwaith wedi'i gynllunio ar gyfer cyfnod pan fydd y ffordd yn dawelach - gan ddechrau am 9pm ac ailagor am 6am, cyn y cyfnod prysuraf o ran traffig yn ystod y bore. Dylai defnyddwyr y ffordd fydd yn teithio yn ystod y cyfnod pan fydd y ffordd ar gau gynllunio eu taith ymlaen llaw a chaniatáu rhagor o amser o ganlyniad i'r llwybr amgen. Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad."

Wedi ei bostio ar 24/06/2024