Skip to main content

Cynllun i ail godi wal yn Stryd Fawr Llantrisant

High Street, Llantrisant

Efallai bydd trigolion yn sylwi bod gwaith yn mynd rhagddo i adeiladu hen wal breifat uwchben y Stryd Fawr yn Llantrisant. Bydd y gwaith yn dechrau wythnos nesaf gan achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl.

Bydd y cynllun yn dechrau ddydd Mawrth, 30 Mai, a bydd yn para oddeutu dau fis i gyd. Mae cwmni Contractwr Spectrum Construction Services wedi cael ei benodi i wneud y gwaith.

Yr unig effaith a ragwelir ar y Stryd Fawr fydd yr angen i gau ffordd sengl, dros gyfnod byr, er mwyn cael gwared ar sgaffaldau, a hynny tua diwedd y cynllun. Bydd y gwaith yma'n cael ei drefnu y tu allan i oriau prysur.

Bydd angen cau rhai ffyrdd am gyfnodau byr y tu allan i oriau prysur hefyd ar waelod Stryd yr Eglwys, er mwyn hwyluso'r gwaith o arllwys concrit.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyfleu i drigolion maes o law, unwaith y bydd y contractwr wedi penderfynu ar fanylion y gwaith cau gofynnol.

Diolch ymlaen llaw i drigolion, busnesau a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 26/05/23