Nodwch, bydd trefniadau bws dros dro ar waith yn dilyn cau ffordd yn Ystad Ddiwydiannol Abergorchwy, Treorci. Mae angen cau'r ffordd er mwyn i Trafnidiaeth Cymru gyflawni gwaith.
Bydd gwaith uwchraddio i Orsaf Drenau Ynysywen yn digwydd rhwng dydd Sadwrn, 23 Rhagfyr, a dydd Sul, 7 Ionawr (2024).
Rhaid cau 170 metr o'r ystad ddiwydiannol i draffig - o bwynt ger y gyffordd â Heol y Clinig.
Amlinellir yr ardal a fydd ar gau a llwybr amgen ar gyfer modurwyr ar y map canlynol ar wefan y Cyngor.
Bydd arwyddion yn nodi’r llwybr amgen ar hyd yr ystad ddiwydiannol, Heol y Clinig, Heol Baglan, Heol Ynyswen, Stryd Bute a Stryd Crichton. Bydd swyddogion cerbydau ar y safle i gynorthwyo Cerbydau Nwyddau Trwm gyda symudiadau troi.
Fydd dim mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, ond bydd mynediad i gerddwyr ac i eiddo lleol. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beic a dilyn y llwybr i gerddwyr drwy'r ardal sydd ar gau.
Am gyfnod y gwaith, ni fydd Gwasanaeth Stagecoach 121 (Tonypandy-Blaenrhondda) yn gallu teithio drwy’r ystad ddiwydiannol. Yn lle hynny, bydd y bws yn teithio ar hyd Heol Ynyswen i'r ddau gyfeiriad.
Dylai teithwyr sy'n defnyddio Canolfan Feddygol Forest View ddefnyddio safle bws Gorsaf Drenau Ynyswen ar Heol Ynyswen yn ystod y cyfnod yma.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr cludiant cyhoeddus am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 21/12/23