Skip to main content

Cabinet yn cytuno i symud ymlaen â phrosiect Ffarm Solar

Yr wythnos yma (21 Mawrth) mae Cabinet Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer 'Ffarm Solar ar Dir'. Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fydd perchennog y cyfleuster yma.

Bydd y prosiect yn derbyn buddsoddiad gwerth tua £6.82 miliwn er mwyn creu ffynhonnell ynni gwyrdd. Mae gan y prosiect yma'r potensial i niwtraleiddio 1,500 tunnell o garbon bob blwyddyn, ac amcangyfrif o 54,000 tunnell dros oes disgwyliedig y prosiect.

Bydd Ffarm Solar yn cyfrannu'n fawr at allu'r Cyngor i niwtraleiddio ei Ôl-droed Carbon er mwyn gweithio tuag at ei darged Carbon Sero-Net. Ein nod yw bod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030. Rydyn ni hefyd am sicrhau fod y Fwrdeistref Sirol mor agos â phosibl at fod yn Garbon Niwtral erbyn hynny.  

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Newid yn yr Hinsawdd a Chymunedau: "Mae prosiect uchelgeisiol ac arwyddocaol y Ffarm Solar yn gyfle pellach i gynhyrchu'r ynni gwyrdd sydd ei angen ar drigolion yr ardal.

"Mae'r costau newidiol ar gyfer olew a nwy wedi amlygu'r angen am gynhyrchu mwy o ynni domestig a throi cefn ar ddefnyddio tanwyddau ffosil cyn gynted ag sy'n bosib.

"Mae gan y prosiect Ffarm Solar y potensial i ddarparu swm arwyddocaol o ynni i'r Grid Cenedlaethol fel bod modd inni fod yn rhan o fynd i'r afael â materion newid yn yr hinsawdd, bod yn Gyngor Carbon Sero-net a chyfrannu at ddiogelwch ynni y DU.

Mae'r Cyngor yn parhau i weithio tuag at ei nod o ddod yn Gyngor a Bwrdeistref Sirol Carbon Niwtral erbyn 2030. Mae eisoes wedi gwneud cynnydd tuag at gyflawni'r ymrwymiad yma i gyrraedd targedau byd-eang, cenedlaethol a lleol, a chyfrannu atyn nhw. 

Sicrhau bod 100% o'n cyflenwad ynni trydanol yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Mae pob golau stryd yn RhCT, oddeutu 29,700 ohonyn nhw, wedi'u newid i LED neu gyfwerth sydd wedi arwain at ostyngiad o 75% yn yr ynni sy'n cael ei ddefnyddio ers 2015/16. Mae'r Cyngor hefyd wedi gosod 108 o Baneli Solar ar ysgolion ac Adeiladau Corfforaethol, cyfanswm o 1.7MW.

Mae'r Cyngor hefyd ar y trywydd iawn i gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% ar gyfer 2025 ac mae wedi cynyddu ei darged ailgylchu i 80% erbyn 2025.

Mae dros 11,000 tunnell o wastraff bwyd hefyd yn cael ei gasglu o gartrefi yn Rhondda Cynon Taf bob blwyddyn a'i ailgylchu ar safle Biogen a'i droi'n ynni i bweru dros 1,000 o gartrefi.

Am ragor o wybodaeth am y Newid yn yr Hinsawdd yn RhCT ewch i www.rctcbc.gov.uk/newidhinsawddrhct

Wedi ei bostio ar 25/03/2022