Ein Cynlluniau
Mae'r Cyngor yn chwarae ei ran i fynd i'r afael â’r Newid yn yr Hinsawdd ac wedi nodi ei dargedau a'i ymrwymiadau yn ei Strategaeth Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd 2022–25 – Hinsawdd Ystyriol RhCT.
Mae strategaeth 'Hinsawdd Ystyriol RhCT' yn nodi sut y byddwn ni'n lleihau allyriadau carbon o fewn y Cyngor a, thrwy weithio ar ein pennau ein hunain ac ar y cyd â phartneriaid, sut y byddwn ni'n cefnogi ac yn dylanwadu ar drigolion, cymunedau, a busnesau yn y Fwrdeistref Sirol i leihau eu rhai nhw. Wrth gyflawni cynlluniau allweddol, er enghraifft trafnidiaeth a chynhyrchu ynni gwyrdd ac arwain drwy esiampl, ein nod ni yw ei gwneud yn haws i'n trigolion, ysgolion, cymunedau, ymwelwyr, a busnesau wneud dewisiadau di-garbon neu garbon isel.
Erbyn 2030
- Bydd RhCT yn gyngor carbon niwtral
- Bydd y Fwrdeistref Sirol mor agos â phosibl at fod yn garbon niwtral
- Byddwn ni wedi cyfrannu at fodloni uchelgais Llywodraeth Cymru o gael sector cyhoeddus sero net
Dyma fideo byr am sut rydyn ni'n mynd i'r afael â'r Newid yn yr Hinsawdd yn Rhondda Cynon Taf
Sut mae modd i ni i gyd chwarae ein rhan
Mae pobl a chymunedau'n gwneud gwaith gwych ledled y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys ailddefnyddio ac ailgylchu, codi sbwriel, tyfu a rhannu ffrwythau a llysiau ffres a phlannu planhigion sy'n addas i wenyn, ond bydd rhaid i ni i gyd wneud mwy. Mae modd i lawer o bobl sy'n cymryd camau bach gyda'i gilydd wneud gwahaniaeth MAWR, megis
- Defnyddio'r car yn llai a cherdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy aml
- Siopa'n lleol, defnyddio llai o ddeunyddiau plastig untro a phrynu llai o gynnyrch 'ffasiwn cyflym'
- Defnyddio llai o ynni yn ein cartrefi ac yn y gwaith
- Sicrhau bod ein cartrefi'n defnyddio ynni'n effeithlon a defnyddio ynni adnewyddadwy lle bo’n bosibl
- Edrych ar ôl ein hamgylchedd naturiol
- Bwyta mwy o brydau o blanhigion
Mae modd i chi ddarllen rhagor o awgrymiadau ar sut i fod yn hinsawdd ystyriol drwy glicio yma.
Rhagor o wybodaeth
Rydyn ni'n ailgynllunio ein gwefan Newid yn yr Hinsawdd ar hyn o bryd a bydden ni'n croesawu eich adborth chi:
NewidHinsawdd@rctcbc.gov.uk.