Skip to main content

Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed

National Blood Donor Week

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi ymgyrch Gwasanaeth Gwaed Cymru ac Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed (13-19 Mehefin), sy'n galw ar ragor o bobl ledled y Fwrdeistref Sirol i roi gwaed.

Mae angen 350 o roddion gwaed bob dydd ar ysbytai yng Nghymru i gefnogi cleifion mewn angen. Mae pob rhodd yn bwysig ac mae'n bosibl y bydd eich rhodd chi yn helpu i achub bywydau.

Mae rhoi gwaed yn hawdd i'w wneud. Mae modd i chi ddechrau ar eich taith drwy drefnu apwyntiad ar-lein ar gyfer un o'r sesiynau sy'n cael eu cynnal bob mis ledled Rhondda Cynon Taf

Rhoi Gwaed: Trefnwch eich apwyntiad ar-lein nawr

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae angen rhoddwyr gwaed bob dydd i gynnal cyflenwad gwaed yn ein hysbytai ac i ateb y galw, a dyna pam mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru.

“Mae modd rhannu un rhodd o waed yn wahanol gydrannau a'i defnyddio mewn ffyrdd gwahanol i helpu cleifion i wella, ac o ganlyniad i hynny mae modd i un rhodd o waed helpu hyd at dri chlaf.

“Os oes modd i chi roi gwaed, trefnwch eich apwyntiad nesaf nawr. Mae rhodd o waed yn cynrychioli un o'r rhoddion mwyaf anhunanol y mae modd i chi ei roi i berson arall. Rydych chi'n helpu i achub bywydau trwy roi gwaed."
Wedi ei bostio ar 13/06/2022