Skip to main content

Daeth Gwyl Aberdare 2022

Aberdare Fesival 2022 - GDPR Approved - Set 1-128
Daeth Gŵyl Aberdâr yn ôl dros benwythnos gŵyl banc Jiwbilî Platinwm y Frenhines gan DORRI RECORD gyda'r nifer o bobl a fynychodd! 

Tyrrodd dros 16,000 o bobl o Rondda Cynon Taf a thu hwnt i'r digwyddiad deuddydd ym Mharc Aberdâr, gan fwynhau dangosiad am ddim o ffilm Disney Encanto, perfformiadau byw gan LA Performance Academy, the DB Big Band a pherfformiadau teyrnged poptastig Beyonce Fierce, Stepz: The Experience, In The Mix a'r Vengaboyz Experience. 

Dyma’r tro cyntaf i achlysur poblogaidd Gŵyl Aberdâr gael ei chynnal ers 2019 oherwydd pandemig y Coronafeirws, ac roedd yn amlwg bod pobl wrth eu bodd i’w gweld yn dychwelyd – yn enwedig gan iddi gael ei hymestyn i ddigwyddiad deuddydd eleni i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm. 

Gan fanteisio ar y tywydd cynnes a’r penwythnos gŵyl banc hir, roedd miloedd o ymwelwyr o bob oed yn y parc ar y ddau ddiwrnod, yn ymlacio wrth wrando ar gerddoriaeth fyw, yn reidio’r trên tir drwy’r parc hyfryd, yn dysgu sgiliau Parkour a syrcas, ac yn cwrdd ag anifeiliaid fferm a deinosoriaid. 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Am benwythos yng Ngŵyl Aberdâr! Roedd yr haul yn gwenu ac roedd pawb mewn hwyliau da wrth i ddathliadau'r Jiwbilî Platinwm ledu drwy RCT.

"Daeth miloedd o bobl i'r achlysur am y ddau ddiwrnod i fwynhau hwyl i'r teulu, adloniant byw a'r cyfle i fwynhau'r penwythnos hir mewn lle hardd.

"Roedd hi'n wych gweld Gŵyl Aberdâr yn dychwelyd ar ôl dwy flynedd anodd a heriol iawn. Roedd dod i wybod fod yr achlysur wedi torri pob record yn ei hanes yn anhygoel!

"Mae Gŵyl Aberdâr yn un o blith nifer o ddigwyddiadau 'Be sy 'mlaen RhCT' yn 2022, gan roi cyfle i bawb i ddathlu a chofio bywyd yn RhCT. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n edrych ar y wefan neu dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol i gael newyddion am achlysuron sydd i ddod, fel Cegaid o Fwyd Cymru, Picnic y Tedis, Rasys Ffordd Nos Galan a mwy."

Mae rhaglen achlysuron 'Be sy 'mlaen RhCT' 2022, gan gynnwys Gŵyl Aberdâr, wedi'i noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae ei staff cyfeillgar wedi bod yn darparu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 25 mlynedd, diolch i'w garfan gyfeillgar a phroffesiynol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.

Os oes diddordeb gyda chi mewn noddi achlysur 'Be sy 'mlaen RhCT' yn 2022, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth a chysylltu â ni: 

 

Wedi ei bostio ar 16/06/2022