Skip to main content

Newyddion gwych i gefnogwyr

Lido - Swim - Pool - April 2018 - GDPR Approved-17

Newyddion gwych i gefnogwyr Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty! Bydd yr atyniad hardd yn agor trwy'r dydd bob dydd o 31 Mai.

Bydd sesiynau nofio ar gael ben bore bob dydd o'r wythnos, sesiynau hwyl yng ngwyliau'r ysgol ac ar y penwythnos, a sesiynau nofio hamddenol a nofio mewn lonydd yn ystod y dydd yn y prif bwll tra bo'r plant yn yr ysgol.

Bydd y pwll chwarae i blant bach hefyd ar agor trwy'r dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn berffaith ar gyfer plant cyn oed ysgol a phlant sy'n dysgu gartref! Bydd cyfanswm o 726 o leoedd ar gael bob dydd.

Mae sesiwn gyntaf yr amserlen newydd ar Ŵyl Banc y Sulgwyn (31 Mai).

Dyma fydd yr amserlen yn ystod y gwyliau a bydd yn cael ei gynnig ar bob dydd o wyliau'r ysgol, ar benwythnosau a Gwyliau Banc tan ddiwedd tymor 2021 Lido Ponty.

Mae'n cynnwys dwy sesiwn nofio ben bore am 6.30am a 7.45am ac yna saith sesiwn hwyl gyda'r cwrs rhwystrau teganau gwynt, gweithgareddau pwll a phwll sblash plant bach.

Dydd Llun, 7 Mehefin yw diwrnod cyntaf y sesiynau yn ystod y tymor. Bydd y rhain yn cael eu cynnal bob dydd o'r wythnos pan mae'r plant yn yr ysgol tan ddiwedd tymor 2021 yn Lido Ponty.

Mae hyn yn cynnwys dwy sesiwn nofio ben bore am 6.30am a 7.45am, ac yna pum sesiwn awr o hyd lle bydd y prif bwll ar agor ar gyfer nofio hamddenol a nofio mewn lonydd a bydd y pwll sblash plant bach hefyd ar agor. Ar ôl ysgol, bydd dwy sesiwn am 4.30pm a 6pm gyda'r cwrs rhwystrau a'r gweithgareddau.

Bydd y sesiynau yn ystod y tymor ar waith rhwng dydd Llun 7 Mehefin a dydd Gwener 15 Gorffennaf. Yna bydd yr amserlen wyliau ar waith tan ddydd Sul, 5 Medi.

Bydd y Caffi Lido ar ei newydd wedd gan Cleverchefs hefyd ar agor ar 24 Mai, gan gynnig amrywiaeth flasus o fwyd a diod poeth ac oer yn y bwyty a hefyd byrbrydau o'r caban ger Chwarae'r Lido.

Dewiswch o focsys salad blasus, pizza o ffwrn goed, bocsys cinio i blant, brechdanau a phaninis a rhagor. Os nad ydych chi'n nofio ond rydych chi wedi prynu tocyn fel gwyliwr, mae modd i chi giniawa ar y teras sy'n edrych dros Lido Ponty.

Os ddim, dyma'r lle perffaith i fwynhau coffi barista tra bod y plant yn Chwarae'r Lido neu wrth i chi chwilota amgylchoedd hyfryd Parc Ynysangharad.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: “Mae’r galw enfawr wedi bod am leoedd yn Lido Ponty ers i’r cyfleuster ailagor y mis diwethaf. Roedd wedi bod ar gau am 14 mis oherwydd y difrod dinistriol a gafodd yn Storm Dennis ac yna effaith pandemig Coronafierws.

“Trwy gydol y cyfyngiadau symud, bu staff a chontractwyr yn gweithio i adfer Lido Ponty i’w hen ogoniant unwaith eto, ac fe gyflawnon nhw waith anhygoel. Mae pob sesiwn yn Lido Ponty wedi gwerthu allan ers iddo ailagor, gyda dros 2,000 o ymwelwyr yn mwynhau ei byllau nofio awyr agored wedi'u cynhesu a'r hwyl i'r teulu.

“Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd cael tocynnau i'r pwll ac, fel i ni addo, rydyn ni wedi cyflwyno amserlen estynedig wrth i dymor 2021 ddechrau.

“Mae hyn yn golygu bod modd i hyd yn oed mwy o bobl fwynhau’r atyniad anhygoel yma, y mae Rhondda Cynon Taf yn falch o fod yn gartref iddo. Nid yw'n cael ei alw'n Lido Cenedlaethol Cymru am ddim rheswm. Mae'n atyniad unigryw, wedi'i leoli yng nghanol Parc Coffa trawiadol Ynysangharad yn ein tref sirol, Pontypridd.”

Mae'r system prynu tocynnau ar gyfer Lido Ponty yn parhau yr un peth. Bydd POB tocyn ar gyfer sesiynau diwrnod yn cael eu rhyddhau ar y diwrnod cyfatebol, saith diwrnod ymlaen llaw.

Mae hyn yn golygu o 7.30am ddydd Llun, 24 Mai, mae modd i chi brynu tocynnau ar gyfer y sesiynau sy'n digwydd ar Ŵyl Banc y Sulgwyn (31 Mai). Os byddwch chi'n colli allan, mae modd i chi roi cynnig arall arni ddydd Mawrth, 25 Mai ar gyfer amserlen sesiynau'r gwyliau sy'n digwydd ddydd Mawrth, 1 Mehefin ac ati.

Oherwydd rheoliadau Covid-19, does dim modd i Lido Ponty gynnig tocynnau munud olaf ar gyfer sesiynau i'w casglu yn y dderbynfa. Rhaid archebu pob tocyn ar-lein, ymlaen llaw.

Os byddwch chi'n archebu ac yn methu â mynychu'ch sesiwn, rhowch wybod i Lido Ponty cyn gynted â phosibl - bydd yr holl docynnau sydd wedi'u canslo yn cael eu dychwelyd i'r system ar-lein i'w hailwerthu.


 Yn ystod y gwyliau

lido
Tymor max ppl sesiwn
 6.30am-7.30am   48 PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol
 7.45am-8.45am  48  PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol
9am-10am 90 PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH
 10.30am-11.30am 90 PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH
 12pm-1pm 90 PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH
 1.30pm-2.30pm  90 PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH
 3pm-4pm  90 PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH
 4.30pm-5.30pm  90  PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH/gan gynnwys gweithgareddau
 6pm-7pm   90  PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH/gan gynnwys gweithgareddau


 yn ystod y tymor

lido
 TymorMax ppl sesiwn
 6.30am-7.30am  48  PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol
 7.45am-8.45am  48  PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol
 9am-10am  90  PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH/gan gynnwys gweithgareddau.
 10.30am-11.30am  90  PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH/gan gynnwys gweithgareddau
 12pm-1pm  90  PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH/gan gynnwys gweithgareddau
 1.30pm-2.30pm  90  PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH/gan gynnwys gweithgareddau
 3pm-4pm  90  PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH/gan gynnwys gweithgareddau
4.30pm-5.30pm  90  PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH/gan gynnwys gweithgareddau
 6pm-7pm  90  PRIF BWLL Nofio Lôn a Hamddenol/PWLL SBLASH/gan gynnwys gweithgareddau

 

  • Rydyn ni'n atgoffa ymwelwyr i drefnu sesiynau ar gyfer eu swigen yn unig. Os yw pobl y tu allan i'ch swigen yn dymuno mynychu gyda chi, rhaid iddyn nhw brynu tocynnau eu hunain.
  • Mae'r sesiynau'n parhau i gael eu cyfyngu i awr o hyd ac mae cyfnod o hanner awr rhwng sesiynau er mwyn glanweithio'n drylwyr.
  • Ar ôl cyrraedd eich sesiwn, rhoddir un o'r bythau newid awyr agored i chi, sef eich un chi am yr awr. Ar ôl cyrraedd Lido Ponty, bydd ciwbicl newid awyr agored eich hun yn cael ei ddyrannu i chi.  Dyma'ch ciwbicl ar gyfer yr awr. Mae'r rhain yn cael eu glanweithio'n drylwyr rhwng pob sesiwn.
  • Mae'r ystafelloedd newid dan do a'r cawodydd (dan do ac awyr agored) yn parhau i fod allan o ddefnydd yn sgil rheoliadau Covid-19.
  • Mae marcwyr cadw pellter cymdeithasol ar waith ledled y safle. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw pellter o 2 fetr ac yn gwisgo'ch mwgwd pan nad ydych chi yn y pwll.
  • Mae system unffordd ar waith, sy'n golygu eich bod chi'n ciwio ar yr ochr gyferbyn â'r ramp y tu allan i Lido Ponty ac yn mynd i mewn trwy'r prif ddrysau. Rydych chi'n gadael trwy fynedfa ochr Lido Ponty, wrth y grisiau.
  • Mae loceri ar gael ar y safle ar gyfer eich eiddo personol.
  • Os oes angen mynediad / parcio i'r anabl arnoch chi, ffoniwch staff Lido Ponty, a fydd yn hapus i'ch helpu. 
Wedi ei bostio ar 25/05/2021