Posted: 03/12/2021
Walk in Rhondda Cynon Taf
Ewch am dro yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru, i weld lliwiau'r Hydref ac i fwynhau awyr iach.
Ydych chi eisiau mynd am dro hamddenol mewn parc gwledig neu gyrraedd copa mynydd? Mae gyda ni rywbeth at ddant pawb!
Rydyn ni wedi llunio rhestr o'n hoff deithiau cerdded ac wedi ychwanegu ambell i syniad o ran llefydd i gymryd saib haeddiannol. Yn ogystal â hynny, rydyn ni wedi cynnwys syniadau am bethau eraill i'w gwneud yn yr ardal, bwytai a gwestai.
Parc Gwledig Barry Sidings
Mae gan yr ardal enfawr yma ger Pontypridd nifer o lwybrau cerdded. Ewch am dro o gwmpas y llynnoedd a mwynhau'r bywyd gwyllt lleol neu gerdded i gyrraedd copa mynydd cyfagos.
Mae caffi unigryw ar y safle sy'n gweini sglodion â thopins a rholiau selsig, yn ogystal â diodydd poeth fel te, coffi a siocled poeth.
Os ydych chi'n dod â'ch plant, byddan nhw wrth eu boddau yn y man chwarae, ar y traciau i feiciau ac yn cerdded o gwmpas y llynnoedd. Mae croeso i chi ddod â'ch cŵn i'r parc.

Darganfod rhagor:
Mae Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yn atyniad ar hen safle Glofa Lewis Merthyr sydd wedi ennill sawl gwobr. Bydd cyn-lowyr yn mynd â chi ar daith dan ddaear ac yn ôl mewn amser, gan rannu eu profiadau personol. Mae arddangosfeydd, cyfleusterau rhyngweithiol a chwrt diwydiannol sy'n llawn eitemau gwreiddiol. Mae caffi, siop anrhegion a siop grefftau ar y safle.

Llwybr Penrhiwllech, Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr
Mae'r llwybr gwych yma'n dilyn rhan o hen Ffordd Coed Morgannwg am chwe chilomedr o gwmpas Parc Gwledig Cwm Dâr i dir uwch gyda golygfeydd o'r Bannau Brycheiniog.
Dyma un o dair taith gerdded o Barc Gwledig Cwm Dâr. Mae llynnoedd i'w gweld, parc beiciau ar gyfer teuluoedd, man chwarae, caffi a llawer yn rhagor.

Darganfod rhagor
Ewch ar y wifren wib gyflymaf o'i math yn y byd yn Zip World Tower. Ar ôl i chi hedfan oddi ar gopa Mynydd Rhigos, cewch chi gyrraedd cyflymder o 25 mya ar reid Tower Coaster, sef yr unig reid o'i math yn Ewrop. Mae Cegin Glo yn lle gwych i ymlacio gyda diod neu bryd o fwyd.

Pen-pych
Dim ond dau fynydd pen bwrdd sydd yn Ewrop ac mae Pen-pych yn un ohonyn nhw!
Ewch am dro 5 cilomedr trwy'r goedwig a heibio rhaeadrau i gyrraedd y copa lle bydd modd i chi weld golygfa anhygoel o Gwm Rhondda. Dyma'r llwybr

Darganfod rhagor
Mae Pen-pych yn agos i ardal Treorci a gipiodd wobr Stryd Fawr Annibynnol Orau'r DU yn 2019. Mae ystod wych o siopau annibynnol, siop hufen iâ, siop cwrw crefft annibynnol a nifer o fwytai a chaffis.

Mynydd y Garth
Mae Mynydd y Garth yn agos i Gastell Coch. Yn ôl pob tebyg, dyma'r ysbrydoliaeth ar gyfer ffilm Hugh Grant 'The Englishman Who Went Up A Hill And Came Down A Mountain'.
Dechreuwch y daith gerdded serth yma ym Mharc Ffynnon Taf gyda golygfeydd syfrdanol i bob cyfeiriad.

Darganfod rhagor
Nantgarw yw unig grochendy'r 19eg Ganrif yn y DU. O ganlyniad i’r ffaith bod darnau o waith y crochendy’n cael eu hystyried i fod mor werthfawr, mae modd eu gweld yn Amgueddfa Caerdydd ac Amgueddfa V&A yn Llundain. Mae pobl yn gweithio ar y safle o hyd, ac mae modd mynd ar daith, mwynhau te prynhawn a rhoi cynnig ar grefftau yno.

Mynydd Gethin
Dyma daith gerdded 13 cilomedr heriol o Aberdâr i gopa Mynydd Gethin, bron i 500 metr uwchben Cwm Cynon. Mae'r daith gerdded yn mynd â chi dros dir uchel Cwm Cynon, gyda golygfeydd o'r Bannau Brycheiniog.

Darganfod rhagor
Adnabyddwyd Aberdâr fel Brenhines y Cymoedd ar un adeg. Ewch i weld yr hyn sydd gan y dref i'w gynnig a dod o hyd i fwyty/caffi i fwynhau cinio. Rhaid ymweld â pharc ysblennydd y dref – dyma gartref yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yng Nghymru.

Llwybr Cerdded Cylchol Pontypridd
Dyma antur 18 cilomedr o gwmpas y mynyddoedd, cymoedd a thirwedd sy'n amgylchynu Pontypridd. Mae modd i chi ddilyn y llwybr i gyfeiriad clocwedd neu wrthglocwedd. Mae digon o arwyddion ac mae modd ei fwynhau fesul teithiau llai os bydd angen.

Darganfod rhagor
Mae llawer o bethau i'w gweld ym Mhontypridd – o'r farchnad sydd wedi bod yn y dref ers 200 o flynyddoedd sydd bellach yn gartref i fwyd stryd gorau'r DU yn Janet's Northern Chinese Cuisine i ystod fawr o siopau a chaffis annibynnol. Mae Parc Coffa Ynysangharad, sy'n gartref i Lido Cenedlaethol Cymru, yn barc hyfryd.
Cronfa Ddŵr Maerdy
Dyma daith gerdded 9 cilomedr sy'n dechrau wrth Gofeb y Glowyr yn ardal Maerdy. Byddwch chi'n cerdded trwy dir a gafodd ei ddefnyddio i fwyngloddio glo er mwyn cyrraedd cronfa ddŵr hardd ac adfeilion Castell Nos. Roedd y castell i'w weld ar dir uchel Cwm Rhondda am gyfnod hir ar ôl i arglwyddi Normanaidd orchfygu rhannau eraill o Dde Cymru.

Dant y Cawr, Abercynon
Cafodd y man yma ei enwi o ganlyniad i fwlch siâp dant cawr rhwng copaon y mynyddoedd. Mae’r bwlch mor fawr y mae modd ei weld o'r ffordd. Mae'r daith gerdded 12.3 cilomedr yma'n mynd â chi ar lwybr rhwng cornel ogledd-ddwyreiniol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Taith Gerdded Gylchol Llanwynno
Meddyliwch am chwedlau coedwig Llanwynno ar y daith gerdded yma. Os ydych chi'n chwilio am antur hirach, mae modd cwblhau taith gerdded Coedwig Sant Gwynno hefyd. Byddwch chi'n gweld cronfa ddŵr Clydach, rhaeadr Pistyll Golau ac eglwys hanesyddol Sant Gwynno, man ffilmio Dr Who a bedd Guto Nyth Brân. Fe oedd dyn cyflymaf y byd ar un adeg. Mae Rasys Ffordd Nos Galan yn cael eu cynnal yn Aberpennar er mwyn cadw ei chwedl yn fyw.

Mynydd y Bwlch
Mwynhewch olygfeydd o Dreorci a Chwm-parc, Cwm Rhondda, yn rhan o'r daith gylchol 12.3 cilomedr yma. Os byddwch chi'n lwcus, bydd fan hufen iâ (sydd hefyd yn gweini te, coffi a chacennau) wedi'i pharcio yn y gilfan i chi gymryd saib haeddiannol! Mae digon o ddefaid ar y mynydd i fod yng nghefn unrhyw luniau byddwch chi'n eu tynnu!

See scores more walk ideas here: