Posted: 05/07/2019
Y 10 man gorau i fwyta yn yr awyr agored yn ystod Mis Cenedlaethol y Picnic
Top 10 spots to enjoy al-fresco dining this National Picnic Month
Copa Pen-pych, Treorci.
Mae'r daith gerdded heriol yma'n mynd heibio rhaeadrau a thrwy goedwig, ond mae'r golygfeydd o ben y mynydd yn werth chweil.
Os ydych chi eisiau taith gerdded fyrrach, llai heriol, mae yna feinciau picnic ar hyd y llwybr tua'r copa, ac mae modd i chi fwyta wrth fwynhau synau'r rhaeadr.
Mae'r llwybr i'w weld yma

Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr.
Dyma le perffaith ar gyfer picnic - gyda'r dydd neu gyda'r nos! Mae yna 500 erw i'w harchwilio, yn ogystal â llynoedd a man chwarae arbennig i blant.
Gyda'r nos, mae gan y Parc wedd newydd fel Safle Darganfod Awyr Dywyll Cymru, gan gynnig cyfleoedd arbennig i wylio'r sêr. Mae modd i chi wersylla dan y sêr.
Rhagor o wybodaeth yma:

Parc Gwledig Barry Sidings, Trehafod
Mae plant, oedolion, unigolion sy'n mwynhau chwa o adrenalin, a chŵn wrth eu boddau ym Mharc Gwledig Barry Sidings. Mae yna deithiau cerdded hyfryd sy'n mynd naill ai trwy'r parc ac o gwmpas y llynoedd neu i fyny i'r mynyddoedd a'r llwybrau cyfagos. Mae'n berffaith ar gyfer beicio mynydd ac mae modd i chi logi beiciau gan glwb Bike Doctor ar y safle. Hefyd, mae'n daith gerdded fer o Daith Pyllau Glo Cymru, cartref Taith yr Aur Du.
Dysgwch ragor yma

Parc Gwledig Cwm Clydach, Cwm Clydach
Mae'r llyn "isaf" mawr yn boblogaidd gyda theuluoedd sy'n chwilio am daith gerdded ysgafn a chyfle i fwydo'r hwyaid a'r gwyddau. Mae yna feinciau o gwmpas y llyn lle mae modd i chi fwynhau picnic. Neu, dilynwch y llwybr tua'r gogledd i'r llyn "uchaf" lle byddwch chi efallai'n gweld crëyr a gleision y dorlan.
Rhagor o wybodaeth yma:

Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd
Eisteddwch yn y cysgod dan goeden hynafol o'ch dewis chi neu torheulwch ym mannau agored y parc hyfryd yma. Bydd plant wrth eu boddau â'r man chwarae antur a Lido Ponty (cadwch le ar-lein).
Rhagor o wybodaeth yma:

Pen Mynydd y Bwlch, Cwm-parc
Dyma olygfa arbennig y mae modd i bobl o bob gallu'i fwynhau - gan fod modd cyrraedd y safle mewn car. Mae'r maes parcio ar ben Mynydd y Bwlch ac yn gartref i ddefaid cyfeillgar a fan hufen iâ sy'n cynnig y danteithion mwyaf blasus!

Parc Aberdâr, Aberdâr
Mae'r parc prydferth yma wedi bod yn croesawu ymwelwyr ers 150 mlynedd, ac mae'n hawdd gweld pam. P'un ai'ch bod chi'n dewis mainc yn y man chwarae antur i fwynhau picnic a chyfle i chwarae, neu fwyta yn yr awyr agored ger y llyn cychod Fictoraidd neu'r ffynnon drawiadol, mae yna lwyth o fannau agored i'w mwynhau.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma

Coedwig Llanwynno, Llanwynno
Ewch yn bell neu mwynhewch daith gerdded fer yn Llanwynno. Mae gan y goedwigaeth enfawr yma ddigonedd o fannau i chi stopio a bwyta, neu cewch chi barhau i archwilio'r holl ffordd i'r rhaeadr brydferth.
Rhagor o wybodaeth yma:

Copa Pen-rhys, Pen-rhys
Mwynhewch un o'r golygfeydd gorau o Gwm Rhondda - yn ogystal ag amffitheatr hynafol, lamaod lleol (wir i chi!) a cherflun epig y Forwyn Fair, Pen-rhys.
Mae yna faes parcio bach, am ddim ac mae modd i chi ddewis lle hoffech chi eistedd a mwynhau'r golygfeydd.

Comin Llantrisant
Mae Llantrisant yn dref anhygoel sy'n llawn hanes ac sy'n eistedd ar ben bryn. Dewch i archwilio adfeilion y castell, cwrdd â'r geifr lleol a bwyta yn yr awyr agored ymhlith y chwedlau.
Dysgwch ragor yma
