Posted: 26/07/2019
Dyma 10 peth y bydd eich plant wrth eu boddau yn achlysur Cegaid o Fwyd Cymru
Mae Cegaid o Fwyd Cymru yn ôl ym Mharc Coffa Ynysangharad Pontypridd ar 3 a 4 Awst ac mae'n addo bod yn benwythnos gwych i bawb.
Mae'r parc yn enfawr a bydd stondinau bwyd a chrefftau ac adloniant am ddim, yn ogystal â ffair (taliadau am y gweithgareddau’n berthnasol)
Mae parcio mewn meysydd parcio Cyngor Rhondda Cynon Taf yn costio £1 drwy'r dydd ar ddydd Sadwrn ac mae AM DDIM ar ddydd Sul. Hefyd mae modd ichi gerdded i'r parc o orsafoedd trên a bws y dref.
Dyma 10 peth y bydd eich plant wrth eu boddau yn achlysur Cegaid o Fwyd Cymru:

1. Ras Lama
Gwyliwch wrth i'r lamas anhygoel ddangos eu sgiliau a dangos pa mor dalentog ydyn nhw. Curiwch eich dwylo a gwnewch lawer o sŵn am eich hoff lama gan fod y ddau lama yn mynd benben â'i gilydd mewn prawf neidio i weld pa un sy’n gallu neidio i’r fan uchaf – byddwch yn cael eich synnu! Amseroedd amrywiol drwy gydol y dydd, ar y ddau ddiwrnod.

2. Sioe Hwyaid
Gwyliwch wrth i’r hwyaid hyn yrru’r ci defaid yn wallgof.

3. Parkour
Enw arall yw rhedeg yn rhydd, mae hyn yn gamp ardderchog – byddwch wedi’ch synnu gan yr arddangosfeydd byw

4. BMX
Bydd un o'r grwpiau stỳnt BMX gorau yn y wlad yn dangos eu sgiliau i chi.

5. Cwrdd â'r anifeiliaid fferm
Edmygu, bwydo a hyd yn oed gael cwtsh gyda’n hoff anifeiliaid fferm

6. Rhoi cynnig ar fwyd newydd
Bydd dros 40 o stondinau bwyd yn yr achlysur, yn gwerthu popeth o gŵn poeth, byrgyrs a thoesenni traddodiadol i fwyd stryd anhygoel, byrbrydau sbeislyd, bwyd blasus fegan a llysieuol a rhagor

7. Dewis beth i'w gael am bwdin
Cyffug? Cwmwl Siwgr? Diod wedi’i rhewi? Côn eira? Hufen ia? Toesenni? Macarŵns? Byddwch chi am fwyta’r cyfan!

8. Rhywbeth melys yn hwyrach
Bydd losin a rhagor ar werth i chi’u prynu ar y dydd a’u mwynhau yn y cartref.

9. Buchod sy’n perfformio
Ydy, mae’n wir. Mae'r pâr doniol yma wedi gwneud i’r tyrfaoedd chwerthin yn eu dyblau’n barod yn Glastonbury a Covent Garden. Dewch i Bontypridd i'w gweld.

10. Amgylchedd ehangach y parc
Mae yna ddigon yn yr ŵyl i’ch cadw’n brysur drwy'r dydd. Fodd bynnag, mae Parc Coffa Ynysangharad hefyd yn gartref i faes chwarae antur enfawr, golff-droed, ac, wrth gwrs, Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty.