Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Sbri Siopa! Diwrnod yn Llantrisant – y dref ar fryn

 

Posted: 12/04/2018

Sbri Siopa! Diwrnod yn Llantrisant – y dref ar fryn

Pan fydd rhywun yn sôn am "siopa" yn Rhondda Cynon Taf, byddai 'n meddwl am y parciau manwerthu enfawr yn Nhonysguboriau sydd ag amrywiaeth enfawr o siopau'r stryd fawr a bwytai cadwyn.

Edrychwch y tu hwnt i'r enwau cyfarwydd (neu uwchlaw’r enwau yn yr achos yma) er mwyn archwilio'r amrywiaeth syfrdanol a hudolus o siopau a bwytai annibynnol yn nhref Llantrisant.

Mae Llantrisant yn lle hyfryd i dreulio'ch amser. Yn ogystal â'r siopau mae yna gyfle i archwilio hanes y dref, ymweld ag adfeilion y Castell, a chrwydro'r Comin.

Lleoedd gorau i siopa:

Pink Zebra - Mae'r siop hyfryd yma'n llawn pethau hardd - ar eich cyfer chi, eich cartref, eich cwpwrdd ddillad, neu'ch anwyliaid.

Picture4

Traditional Toys - Dyma'r unig siop yng Nghymru sy'n gwerthu Eirth Stieff a Charlie. Mae 'Traditional Toys' yn fyd ffantasi o deganau traddodiadol a modern, atgofion plentyndod a thanwyr y dychymyg.

Picture8

With Love Flowers and Gifts - Mwynhewch wledd i'ch llygaid ac anrheg ar gyfer eich anwyliaid yn y siop hudolus yma. Mae yna flodau hardd ar gyfer pob achlysur, ac anrhegion i fynd gyda nhw!

Picture16

O'Sullivans Brasserie - Mae’r bwyty yma wedi bod yn gweini ymwelwyr o bob ban y byd am 25 mlynedd. Mae'n enwog am ei brydau cig - gan gynnwys cangarŵ, peithon, sebra a chig eidion - ynghyd â phwdinau blasus.

Osullivans

Castle Cafe - Mae'r enw'n deillio o Gastell Llantrisant, a fu'n strwythur godidog ar un adeg lle cafodd y Brenin Edward II ei ddal cyn iddo gael ei ddienyddio. Erbyn hyn mae'r perchennog Joy Davies yn enwog am weini brecwast llawn, bwyd poeth parod a chinio rhost dydd Sul.

The Polkadot Teapot - : Ystafell de draddodiadol a phrysur dan reolaeth y perchnogion o fri, Cara ac Ann. Ewch i gael te'r prynhawn, neu ddantaith go lew. Byddwch chi'n synnu ar y cacennau thema anhygoel y maen nhw'n eu gwneud.

Polkadot

The Bear Inn - Mae'r dafarn wedi bod yn gweini prydau poeth, byrbrydau dros y bar a diodydd er dros 300 o flynyddoedd! Rhaid eu bod nhw'n dda i allu ffynnu am yr holl ganrifoedd!

Picture24

The New Inn - Yn ôl y sôn, dyma'r dafarn hynaf yn Llantrisant. Mae gan y New Inn fwydlen sy’n tynnu dŵr o’r dannedd, sy'n cynnwys prydau traddodiadol fel lasagne a stêc, yn ogystal â byrgyrs arbennig, tapas a nosweithiau â chynnigion stêc.Picture28

Butcher's Arms Galley and Coffee Shop - Dyma le gwych i gael diod boeth a byrbryd bychan, brechdan a chacen - a phob un ohonyn nhw wedi'u gwneud â llaw ar y safle. Mae pob twll a chornel y cyn-gerbyty yn llawn pethau hyfryd i'w pori a'u prynu, gan gynnwys crochenwaith Emma Bridgewater.

Picture32

Delicia Tea and Cakes - Dyma fusnes newydd sy'n gwerthu amrywiaeth enfawr o de o bob ban y byd â sawl blas apelgar. Gwnewch eich te mewn steil gyda'u potiau te, cwpanau a llestri hyfryd.

Delicious-Tea