Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Pen-pych Mountain Gan Tracy Purnell - Hyrwyddwr GetOutside Arolwg Ordnans

 

Posted: 18/12/2017

Pen-pych Mountain Gan Tracy Purnell - Hyrwyddwr GetOutside Arolwg Ordnans

Cerddwch gylchdaith Pen-pych a mwynhewch y golygfeydd syfrdanol o'r copa. Mae hyn yn daith gerdded arbennig sy'n gyfoeth o hanes. Byddwch chi'n cerdded heibio rhaeadrau dramatig, sy'n cynnwys Rhaeadr Nant Carnfoesan a Nant Melyn. Mae modd i chi ymweld ag anheddiad o gylchoedd cwt o'r Oes Haearn yn ogystal â gweld golygfeydd o hen lofa a thwnnel rheilffordd sydd ddim yn cael ei ddefnyddio bellach.

Penpych

Mae'r daith gerdded yn dechrau yn nwyrain y maes parcio mawr. Mae'r llwybr wedi'i ddiffinio'n dda ac yn eich tywys chi drwy'r coed pinwydd i'r rhaeadr gyntaf. Dylai hyn gymryd tua 20 munud. Cymerwch hoe i ddal eich gwynt cyn i'r llwybr fynd yn fwy serth a chul.

Mae rhan o'r llwybr rhwng y rhaeadr a chopa Mynydd Pen-pych yn gallu bod yn fwdlyd ac yn llithrig os yw hi wedi bod yn glawio ers cyfnod hir. Cymerwch ofal wrth gerdded ar y rhan serth yma.

Bydd angen dringo ychydig cyn cyrraedd copa Pen-pych. Mae'r golygfeydd o'r copa'n arbennig! Bydd Cwm Rhondda Fach i'w weld o'ch blaen chi â'i fryniau coedwigol a phentrefi hyd at y gorwel.

penpychMountain

Ar ôl mwynhau'r golygfeydd gwych, trowch o gwmpas ac ewch tuag at y wal cerrig sych.

Ar ôl i chi fynd heibio'r wal, byddwch chi'n gweld llwybr sy'n mynd tuag at y goedwig fawr. Wrth ddilyn y llwybr byddwch chi'n dod at safle'r hen lofa. Mae'r safle wedi cael ei dirweddu er mwyn cyd-fynd â'r ardal sydd o'i gwmpas.

penpycch3

O bryd i'w gilydd, mae'r goedwig yn gallu bod yn wlyb ac yn fwdlyd. Wrth i chi symud drwy goedwig yn llawn coed â mwsgol arnyn nhw, bydd hi'n eithaf tywyll. Bydd hwn yn ychwanegu at brydferthwch yr ardal yma.

penpycchPath

Ar ôl i chi gyrraedd y llannerch, mae'r llwybr yn fwy creigiog. Cerddwch tuag at y nant ac at y bont fetel mawr.

penpycch4

Mae'r nant yn llifo ar hyd cwm cul cyn lledaenu ar bwys yr hen lofa. Dyma raeadr fawr ddramatig arall y mae modd ei gweld ar y daith gerdded. Ar ôl croesi'r bont, bydd hi'n daith gerdded fer o raeadrau Nant Carnfoesan a Nant Melyn.

penpycchdogs

Croeswch y bont goncrit gul ac ewch tuag at y grisiau ar waelod y glan sydd ar eich chwith. Dringwch y grisiau yma ac ewch i ben y glan serth yma trwy'r grug a thuag at ffordd mynydd Y Rhigos.

penpycch9

Pan rydych chi'n cyrraedd pen y glan, mae'r llwybr yn hawdd i'w gweld a byddwch chi'n gweld arwydd pren sy'n eich arwain chi i'r dde. Byddwch chi'n cerdded i lawr y bryn a thuag at hen safle'r lofa unwaith eto.  Mae'r llwybr yn mynd heibio'r cylch o gytiau cerrig o'r Oes Haearn, ac fel arfer mae yna eifr sy'n pori yn yr ardal yma.

penpycch10

Dilynwch y llwybr tuag at y bryn ble mae modd edrych lawr ar yr hen lofa. Wrth ochr yr hen lofa ac ar ochr y mynydd bydd modd i chi weld y fynedfa i dwnnel Cwm Rhondda. Dydy'r twnnel yma ddim yn cael ei ddefnyddio bellach, ond ar un adeg roedd y twnnel yn cael ei ddefnyddio er mwyn cludo glo i Gwm Afan. Mae'r twnnel tua 2 filltir o hyd, ac yn treiddio tua 1000 troedfedd dan ddaear. Mae yna gynlluniau ar y gweill i ailagor y twnnel a'i ddefnyddio fel llwybr seiclo.

penpycch11

Ar ôl i chi gyrraedd gwaelod y mynydd, dilynwch y lôn tuag at y rhwystrau ar Coldra Road. O'r man yma, mae modd i chi gerdded trwy ardal breswyl tuag at y brif ffordd ac yn ôl ar Ffordd Blaen-y-Cwm tuag at y maes parcio.

penpycch12

Walk information

Man cychwyn - Maes Parcio Coedwig Pen-pych, Ffordd Blaen-cwm, Blaen-cwm Rd

Cyfeirnod Grid y Man Cychwyn - SS 924 991

Gradd - Cymedrol

Pellter - 5.7 milltir/9.1 km

Hyd - 2 awr 40 munud

Mapiau Arolwg Ordnans-

penpych-map

Ymwadiad: Chi sy'n gyfrifol am eich diogelwch eich hun.  Mae'r dirwedd yn serth ac yn anwastad mewn rhai llefydd. Bydd y daith yn cynnwys llwybrau, palmentydd a grisiau.  Efallai bydd yna gatiau a chamfeydd sy'n anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn, pramiau a choetsis babanod.

Gwnewch yn siwr eich bod chi'n dod â bwyd a diodydd ac yn gwisgo dillad ac esgidiau addas.

I ddarllen rhagor am anturiaethau cerdded Tracy, ewch i: