Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Ynglŷn â'r Parc

 
Mae ymwelwyr wedi bod yn heidio i Barc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, i chwarae, mwynhau picnic ac achlysuron ac anturiaethau yn yr awyr agored am bron i 100 mlynedd. Mae hi'n hawdd gweld pam!

Dyma'r hyn y mae modd i chi ei wneud yn y parc:

Mae'r parc yn gartref i  Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Hen adeilad sydd wedi'i adnewyddu ac sydd â 3 phwll nofio awyr-agored wedi'u gwresogi. Mae modd mwynhau sleidiau a gemau, nofio mewn lonydd a phwll bas i blantos bach.

Mae hi'n werth ymweld â Chanolfan i Ymwelwyr Lido Ponty. Mae'r Ganolfan yma'n rhoi hanes y Lido gwreiddiol i chi. Fan hyn y bu Jenny James, sef y fenyw gyntaf i nofio'r Sianel, yn hyfforddi, a bu Sir Tom Jones yn bolheulo yma pan oedd e'n fachgen ifanc.

Mae ardal  Chwarae'r Lido  yn un o'r caeau chwarae gorau yn yr ardal, ac mae cyfarpar chwarae â thema yno er mwyn dathlu llwyddiant diwydiannol Pontypridd. 

Ewch i'r  Caffi  i gael blas ar amrywiaeth wych o fwydydd a chacennau cartref, paned, hufen iâ, diodydd oer a llawer yn rhagor! Mae'r caffi yn edrych dros  bwll y Lido  ac ardal Chwarae'r Lido .

Mae Canol Tref Pontypridd o fewn tafliad carreg i'r parc pe hoffech chi chwilio am ragor o leoedd i fwyta neu yfed. 

Yn ogystal â hynny, mae cyrtiau tennis, cae criced a golff-droed ac erwau o gaeau agored yn y parc. Mae e wedi llwyddo i ennill Gwobr y Faner Werdd bob blwyddyn am 12 mlynedd!

Mae'r parc yn aml yn croesawu achlysuron i'r teulu, gan gynnwys pethau fel diwrnodau llawn hwyl, ffeiriau a gorymdeithiau. Y prif achlysur a gaiff ei gynnal yn y parc yw  Cegaid o Fwyd Cymru. Caiff yr ŵyl yma ei chynnal ar benwythnos cyntaf mis Awst er mwyn dathlu'r bwyd, y ffordd o fyw a'r diwylliant sydd gyda Rhondda Cynon Taf i'w gynnig.

Mae  Llwybr Taith Taf yn rhedeg ar hyd un ochr o'r parc, sy'n golygu bod modd i chi seiclo yno o Gaerdydd neu Ferthyr Tudful. Yn ogystal â hynny, mae modd cerdded i'r parc o'r orsaf drenau, ac mae digon o feysydd parcio ceir ym Mhontypridd.

Planhigion, blodau a bywyd gwyllt yn y parc:

Bumble bee - Ponty Park
Rhagor o wybodaeth am y gerddi blodau trawiadol a'r planhigion, coed, pryfed ac adar sydd i'w gweld ym Mharc Ynysangharad

Hanes y parc:

Pontypridd Park- view
Rhagor o wybodaeth am hanes diddorol y parc
PontyParkEvanJamesrestored
Rhagor o wybodaeth am y ddau gerflun efydd sy'n cyfleu ffigurau mewn gwisgoedd Celtaidd.
Banstand ponty park
Dewch i fwynhau'r ardd isel sy'n amgylchynu'r safle seindorf hardd.
ponty memorial cross
Mae Rhestr y Gwroniaid yn cynnwys enwau'r rheiny o hen ardal drefol Pontypridd (a'r rheiny a fyddai wedi bod o fewn ffiniau cyfredol Cyngor y Dref) a fu farw tra roedden nhw'n filwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd a'r rhyfeloedd eraill wedi hynny. 
Mae'r ffynnon fach yma er cof am ŵyr Samuel Lenox, un o sylfaenwyr y cwmni Brown Lenox Chain and Anchor.

Pe hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am hanes Parc Coffa Ynysangharad a Phontypridd, beth am ddilyn un o'n llwybrau cerdded, sy'n dechrau yn Amgueddfa Pontypridd?? Hefyd, mae modd i chi  lawrlwytho'r canllaw sain a map o'r llwybr