Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Y Gofeb Ryfel

 
Ym mis Tachwedd 2011, cafodd dau fur yn dangos Rhestr y Gwroniaid eu dadorchuddio gan yr Arglwydd Raglaw ar gyfer Morgannwg Ganol. Maen nhw'n nodi enwau'r milwyr o'r ardal a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Mae'r muriau yma wedi'u lleoli ger y cofebion oedd yn bodoli eisoes, sydd wedi bod yno ers peth amser. Cawson nhw eu dylunio i gyd-fynd â'r cofebion yma.

Gweld Rhestr y Gwroniaid, Pontypridd

ponty memorial cross
Parc Coffa Ynysangharad

Mae Rhestr y Gwroniaid  yn cynnwys enwau'r rheiny o hen ardal drefol Pontypridd (a'r rheiny a fyddai wedi bod o fewn ffiniau cyfredol Cyngor y Dref) a fu farw tra roedden nhw'n filwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd a'r rhyfeloedd eraill wedi hynny.  

Mae'r muriau ym Mharc Coffa Ynysangharad yn rhestru enwau'r rheiny a fu farw. Yn ogystal â hynny,  mae modd i chi weld  Rhestr y Gwroniaid, Pontypridd, ar y cyd â rhagor o'r manylion sydd ar gael am y milwyr, mewn dau lyfr arbennig yn Llyfrgell Pontypridd ac yng Nghanolfan Hanesyddol Pontypridd. 

Doedd dim Rhestr y Gwroniaid ar gael ar gyfer Pontypridd,  a nododd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod y rhestr ddim ar gael mewn fformat addas.  O ganlyniad i hyn, cafodd Rhestr y Gwroniaid ei lunio ar sail cofnodion sy'n bodoli eisoes a gwybodaeth leol, a gyda chymorth y cyhoedd. 

Cafodd dau gyfnod ymgynghori cyhoeddus ei gynnal ar gyfer Rhestr y Gwroniaid rhwng mis Mawrth a Gorffennaf 2011, a chafodd pobl eu hannog i ddarparu unrhyw wybodaeth  a fyddai, o bosibl,  yn galw am ddiwygio'r rhestr.

Cafodd pob ymdrech ei wneud i sicrhau bod y rhestr mor gyflawn a chywir â phosibl. Serch hynny, efallai y bydd hi'n cynnwys rhai camgymeriadau, a bydd rhywfaint o wybodaeth ar goll. Roedd rhaid wynebu'r risg yma er mwyn cyflawni'r prosiect.    Rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r  fethodoleg a'r meini prawf ar gyfer Rhestr y Gwroniaid.

Rydyn ni'n ddiolchgar iawn  am y cymorth rydyn ni wedi'i gael gan y cyhoedd hyd yma wrth  lunio Rhestr y Gwroniaid. 

Rhaid cyfeirio at gymorth arbennig   y diweddar Ray Baldwin, cyn-Gynghorydd Tref Pontypridd, a