Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Parciau

 
EvanJamesStatuesYnyshangaradPark9789
Mae gan Barc Coffa Ynysangharad rodfeydd a gwelyau blodau i'w mwynhau o'r llwyfan fandiau Fictoraidd. Mae'r parc hefyd yn gartref i Lido Ponty, sef Lido Cenedlaethol Cymru. Dyma'r Lido gwreiddiol ar ei newydd wedd. 
Dare-Valley-Country-Park-lake
Dewch i sefyll mewn parc gwledig ar ben mynydd wedi'i ffurfio dros filiynau o flynyddoedd, a cherdded yn ôl troed deinosoriaid. 
LakeBandstandTreesLeavesFlowers11
Treuliwch ddiwrnod mewn parc Fictoraidd traddodiadol, sy'n cynnwys llyn cychod a hwyaid, caffi a llwyfan bandiau. 
BronwyddParkPorthinAutumn34
Mae Parc Bronwydd yn lle braf i bawb ym mhob tymor – yn llawn coed, blodau a bywyd gwyllt. 
TaffsWellTrainsParkBowlsWellTennisCourtsFlowersPubs11
Dewch i fwynhau rhywbeth gwahanol ym Mharc Ffynnon Taf. Mae gan y parc le chwarae i blant, lawnt fowlio, cyrtiau tennis ac ardaloedd wedi'u tirlunio, yn ogystal â'r unig ffynnon dwym yng Nghymru! 
DarranParkLakeAutumn20154
Dyma barc Edwardaidd â llyn – sef Llyn y Forwyn – sy'n gysylltiedig â chwedl Gymreig. 
barrys
Byddwch yn barod am antur ym Mharc Gwledig Barry Sidings. Mae'n llawn llwybrau i'w crwydro, trac poblogaidd ar gyfer beicio mynydd, pwll hwyaid/pysgota a lle chwarae i blant. 
ClydachLake

Mae Parc Gwledig Cwm Clydach yn ardal o harddwch naturiol eithriadol sy'n cynnig amrywiaeth o deithiau cerdded, yn ogystal â chyfle i weld gleision y dorlan, crehyrod, pili-palod, madfallod dŵr a mwy.

Image 300x300
Heading
Text