Ym mis Gorffennaf 1930, cafodd y gofeb i Evan James (1809-1878) a James James (1833-1902), y tad a'r mab o Bontypridd a wnaeth gyfansoddi ein hanthem genedlaethol eiconig Hen Wlad fy Nhadau, ei dadorchuddio.
Cerfluniau Evan James a James James
Mae'r ddau gerflun wedi'u gwneud o efydd, ac maen nhw'n dangos dau ffigur mewn gwisg Geltaidd - dyn yn gafael mewn telyn, sy'n cyfleu cerddoriaeth, a menyw sy'n cyfleu barddoniaeth.