Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Y Safle Seindorf

 
Cafodd y Safle Seindorf ei adeiladu yn 1926. Mae ganddo do crwn gyda theils coch ac mae'r rheilins wedi'u gwneud o ddur. Dyma ganolbwynt y parc. Mae gwlâu blodau tymhorol o'i amgylch, ac mae e'n adlewyrchu'r ffordd yr oedd pobl Oes Fictoria yn ystyried hamddena yn fater diwylliedig yn hytrach na mater corfforol.
Ponty-Park-Bandstand-1
Y Safle Seindorf

Dros amser, daeth y Safle Seindorf yn ganolbwynt i'r parc, yn enwedig yn ystod taith goroni'r Frenhines Elizabeth II yn 1953.

Mae'r safle wedi'i leoli mewn ardal isel, ffurfiol, ac mae llawer o bobl yn mwynhau dod i eistedd yma yn ystod yr haf. Mae'r achlysur 'Cerddoriaeth yn y Parc' yn parhau i gael ei gynnal yno ac mae'n ardal yn boblogaidd iawn ar gyfer tynnu lluniau priodas.