Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Hanes Parc Coffa Ynysangharad

 

Yn wreiddiol, cafodd Parc Coffa Ynysangharad ei osod ar dir oedd yn cynnwys rhandiroedd a chaeau. Roedd yr afon Daf ar yr ymylon gorllewinol a deheuol, ac roedd Tŷ Ynysangharad a Safle Gwaith Brown Lenox Chain and Anchor i'r dwyrain.
Parc Coffa Ynysangharad

Cafodd cwmni Brown Lenox Chain and Anchor ei sefydlu yn 1818. Dyma'r unig gwmni oedd yn darparu cadwyni ac angorau i'r Llynges Frenhinol, a chafodd eu cynnyrch ei ddefnyddio ar rai o'r llongau mwyaf moethus yn y byd fel y Queen Elizabeth, y Queen Mary a hyd yn oed y Titanic. Roedd Cwmni Brown Lenox yn un o'r cwmnïau hollbwysig oedd yn darparu gwaith i'r gymuned leol. Roedd cloch yn arfer bod yn y parc (1849), ac roedd hi'n cael ei defnyddio i nodi dechrau a diwedd shifft y gweithwyr. Bellach mae'r gloch yma wedi'i chadw yn Amgueddfa Pontypridd. Yn 1873, roedd Gordon Lenox, a sefydlodd y gwaith haearn, yn byw yn Nhŷ Ynysangharad ac roedd y cyhoedd eisoes yn defnyddio rhywfaint ar y tir. Caniataodd Gordon Lenox i sioe flodau, ffrwythau a llysiau gyntaf Pontypridd gael ei chynnal yma yn 1890. Mae'r cofnodion yn dangos y byddai pobl wedi teithio o lefydd fel y Bont-faen, Powys a hyd yn oed Caerfyrddin er mwyn arddangos eu ffrwythau a'u llysiau.

Er bod y parc ddim wedi agor tan y 1920au, roedd sôn am greu parc ar y safle o tua 1903 ymlaen. Yn ogystal â hynny, mae tystiolaeth sy'n nodi bod ardaloedd hamdden eisoes wedi dechrau cael eu creu o 1909 ymlaen. O'r diwedd, ym mis Rhagfyr 1919, diolch i arian gan y cyhoedd a grantiau gan Gronfa Les y Glowyr, cafodd 13.4 hectar ei brynu er mwyn darparu mwynhad a phleser i drigolion Pontypridd. Ar 6  Awst 1923, agorodd yr Uwch Farsial yr Is-iarll Allenby, y parc yn swyddogol, a hynny fel cofeb i'r nifer o ddynion lleol a fu farw yn ystod y Rhyfel Mawr.

Newidiodd y cynllun ar gyfer y parc sawl gwaith, ond mae'r ffordd y mae'r parc wedi'i osod heddiw yn cyd-fynd â'r cynllun terfynol a gafodd ei gytuno (ac eithrio darn o'r parc a gafodd ei golli pan gafodd yr A470 ei hadeiladu ar ddechrau'r 1970au). Ers hynny, mae'r rhan fwyaf o'r nodweddion gwreiddiol yn dal i'w gweld ym Mharc Coffa Ynysangharad.