Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Planhigion, blodau a bywyd gwyllt

 
Mae nifer o lwybrau cerdded o amgylch y parc, a fydd yn eich tywys chi o amgylch y cynefinoedd amrywiol sydd i'w gweld yma. Mae'r cynefinoedd sydd i'w gweld yn y parc yn cynnwys glaswelltir sydd wedi'i wella, gwrychoedd, coetiroedd, cefnau afonydd a'r adeiladau amrywiol sydd yn y parc.
Flora
Waliau'r Parc

Mae ein hardaloedd bywyd gwyllt, a gafodd eu creu'n ddiweddar, yn ardaloedd sydd â photensial da o ran hybu bioamrywiaeth. Wrth i chi gerdded o amgylch y parc, efallai y byddwch chi'n sylwi ar nifer o focsys pren sydd â'r nod o annog adar i nythu ynddyn nhw. Rydyn ni wedi adolygu'r ffordd rydyn ni'n torri'r glaswellt yn y gobaith y bydd hyn yn annog rhagor o rywogaethau o flodau gwyllt a glaswellt i dyfu yma. Yn ei dro, bydd hyn yn denu amrywiaeth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn, adar, ymlusgiaid a mamaliaid.

Yr Ardd Isel 

Flower Garden - Ponty Park
Yr Ardd Flodau

Cafodd yr ardd isel ei hadeiladu yn 1923. Roedd y cynllun yn seiliedig ar ffasiwn gerddi 'Eidalaidd', gyda rhywfaint o nodweddion artistig. Roedd yr ardd yn cynnwys nodweddion tocweithiol ffurfiol, planhigion llysieuol a meinciau wedi'u gosod yn yr encilion.

Heddiw, mae dram glo (o hen bwll glo) i'w weld yn yr ardd, ac mae cofeb i nodi'r arian a gododd y glowyr lleol er mwyn creu'r parc. Mae'r gwely bach yn y canol yn llawn blodau tymhorol sy'n arbennig o liwgar yn ystod yr haf. Mae planhigion tir isel yn gorchuddio'r llethrau, ac mae meinciau wedi'u gosod hwnt ac yma yn yr encilion. Does dim llawer wedi newid yn yr ardd isel ers y 1930au. Serch hynny, mae hi'n parhau i fod yn rhan ddiddorol iawn o'r parc.

Coed

Trees park
Coed yn y Parc

Un o nodweddion mwyaf anhygoel Parc Coffa Ynysangharad yw'r coedlannau, sy'n eich denu chi i mewn i'r parc. Mae'r Dderwen Twrci (Quercus cerris), Castanwydd y Meirch (Aesculus hippocastanum) a Phlanwydd Llundain (Platanus x hispanica) yn rhywogaethau arbennig sydd wedi bod yn tyfu yn y parc yma ers peth amser.

Yn ogystal â hynny, mae amrywiaeth o goed collddail a bytholwyrdd i'w gweld yma, gan amrywio o'r dderwen fythwyrdd (Quercus ilex) fawreddog i'r Helyg Wylofus (Salix sp.) swynol,  yn ogystal â Chedrwydd Libanus (Cedrus libani).

Dyma le gwych i ddod i edmygu'r cewri anhygoel yma.

Gwrychoedd

Mae nifer o wrychoedd i'w gweld yn y parc hefyd, o amgylch y caeau criced a'r lawnt fowlio. Mae'r rhain yn lleihau sŵn, ac yn gynefin gwych i adar, lle mae modd iddyn nhw chwilota am fwyd a chuddio rhag ysglyfaethwyr. Wrth ymweld â'r ardaloedd yma, byddwch chi'n gweld Prenau Bocs (Buxus sp.) a  Choeden Lawrgeirios (Prunus lauroceracus).

Yn y gwanwyn, bydd modd i chi weld ein Llwyn Cwrens Blodeuog (Ribes sanguineum) lliwgar a'r Banadl (Cytisus sp.) yn ogystal â blodau bach porffor y Berfagl (Vinca major) neu flodau melyn llachar ein Mahonia Dail Celynnog  (Mahonia aquifolium).

Yn yr haf, mae'r  Rhododendron, rhosod, perlysiau a'r  Spirea  yn sicrhau bod y parc yn frith o liwiau, ac, yn bwysicach fyth, yn bwydo'r amrywiaeth o bryfed sydd i'w gweld yma (e.e. cacwn, gwenyn, pryfed hofren ac ati).

Planhigion tymhorol

Mae sawl gwely blodau tymhorol yn ein parc, lle mae'r blodau ar eu gorau yn ystod y gwanwyn a'r haf. Yn ogystal â hynny, mae gyda ni nifer o ymylon llysieuol.  Mae pob un o'r rhain wedi'u gosod mewn mannau pwysig er mwyn gwneud y gorau o'n nodweddion hanesyddol hardd. Yn ogystal â hynny, maen nhw'n bwydo amrywiaeth o bryfed fel gloÿnnod byw, gwenyn a chacwn. Rydyn ni'n ceisio denu rhagor o'r pryfed hyn i'r parc.

Ardaloedd Bywyd Gwyllt

Wild flowers zones ponty park
Blodau gwyllt

Efallai y byddwch chi'n sylwi ar ddarn o laswellt sydd ddim wedi'i dorri wrth fynd am dro yn y parc. Nod hyn yw annog amrywiaeth well o flodau a glaswellt i dyfu yma. Bydd hyn, yn ei dro, yn denu rhagor o anifeiliaid di-asgwrn-cefn fel gloÿnnod byw, cacwn, pryfed hofren a gwenyn.

Yn ogystal â hynny, efallai y byddwch chi hefyd yn sylwi ar flodau anghyffredin fel y Deintlys (Lathraea squamaria), y Fritheg  (Fritillaria meleagris) neu, ar ddechrau'r gwanwyn, harddwch melyn Llygad Ebrill (Ranunculus ficaria).

Mae'r ardaloedd bywyd gwyllt yn gwneud cyfraniad pwysig at ein gwaith o ddarparu cynefin a bwyd ar gyfer ein bywyd gwyllt. Rydyn ni'n gobeithio y bydd modd i ni weld rhai o'r rhywogaethau o flodau a glaswellt gwreiddiol, a oedd i'w gweld ar Fferm Ynysangharad, yn dychwelyd i'r parc drwy'r broses adfywio genedlaethol.

Anifeiliaid, pryfed ac adar

Bumble bee - Ponty Park
Cacwn

Er bod Parc Coffa Ynysangharad yn eithaf newydd o'i gymharu â pharciau eraill o Oes Fictoria sydd yn yr ardal, mae e eisoes yn gartref i amrywiaeth o adar, anifeiliaid di-asgwrn-cefn a mamaliaid bach.

Mae brychau'r coed, adar duon a drywod bach yn aml i'w gweld o amgylch y gwrychoedd sydd yn y parc. Yn ogystal â hynny, efallai y byddwch chi hefyd yn clywed turturod torchog, robiniaid cochion a ji-bincod wrth i chi ymlacio yn yr ardd isel.

Wrth i chi gerdded ar hyd yr afon, mae'n debyg y byddwch chi'n gweld ambell hwyaden. Mae hwyaid gwyllt yn eithaf cyffredin yma.

Yn ystod y gwanwyn a'r haf, mae modd i chi weld amrywiaeth o wenyn a chacwn yn hedfan o amgylch ein blodau tymhorol, yn ogystal â gloÿnnod byw fel y Gwynion Blaen Oren, Brithion y Coed a hyd yn oed Gleision yr Eiddew. Beth am i chi a'ch plant fynd ar antur i chwilio amdanyn nhw?