Skip to main content

Sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dychwelyd i Lido Ponty

Square-Cold-Water-Swim

 Wrth i dymor yr haf ddirwyn i ben, mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty'n paratoi i ostwng tymheredd y dŵr a pharatoi ar gyfer dychweliad sesiynau nofio mewn dŵr oer.

Yn dilyn sesiynau treial llwyddiannus y llynedd, bydd sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dychwelyd i Lido Ponty ar 19 Hydref. Bydd tymheredd y dŵr yn cael ei osod ar dymheredd gostyngol o 14 gradd a bydd sesiynau ar y penwythnos yn llawn nofwyr anturus.

Denodd sesiynau y llynedd ymwelwyr o bob cwr o'r DU, boed ar gyfer sesiynau nofio hamddenol neu hyfforddi ar gyfer cystadlaethau. Rydyn ni'n gobeithio'u gweld nhw eto yn 2024.

Bydd tocynnau ar gyfer sesiynau nofio mewn dŵr oer yn mynd ar werth am 9am ddydd Llun 7 Hydref ar www.lidoponty.co.uk

Byddwn ni'n cynnal pedair sesiwn nofio mewn dŵr oer bob dydd Sadwrn a dydd Sul, bydd pob sesiwn yn para 45 munud ac mae croeso i chi aros am y sesiwn gyfan neu adael yn gynnar.

Bydd tymheredd y dŵr yn cael ei gynyddu'n ôl i 28 gradd ar gyfer achlysuron ar Ŵyl San Steffan a dydd Calan wedi i'r sesiynau nofio mewn dŵr oer ddod i ben. Does dim dyddiad wedi'i bennu ar gyfer hyn eto.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych arall yn Lido Ponty ac roedden ni mor falch o groesawu ymwelwyr o mor bell i ffwrdd â Phatagonia yn yr Ariannin i’n hatyniad hardd yn ystod Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.

“O nofwyr ben bore i’r rhai sy’n mwynhau hwyl yn yr haul, mae wedi bod yn dymor anhygoel ac rydyn ni mor ddiolchgar i’n cwsmeriaid, hen a newydd, am dreulio eu hamser gyda ni.

“Mae sesiynau nofio mewn dŵr oer yn parhau i fynd o nerth i nerth ac rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu i sesiynau mis Hydref 2024.”

 

Wedi ei bostio ar 01/10/2024