Skip to main content

Paratoi ar gyfer cynllun adfer ar Lwybr Cwm Cynon ger Pen-y-waun

Penywaun 3 - Copy

Dyma roi gwybod i drigolion y bydd Llwybr Cynon, Penywaun, ar gau am ddau ddiwrnod, er mwyn cynnal tyllau prawf a fydd yn llywio cynllun adfer tirlithriad yn y dyfodol.

Bydd y llwybr a rennir yn cau ddydd Mawrth a dydd Mercher (26–27 Mawrth) er mwyn i gontractwr penodedig y Cyngor, Quantum Geotechnic Ltd, gyflawni gwaith safle y tu ôl i Erw Las, lle roedd tirlithriad bach.

Bydd angen cau Llwybr Cynon i sicrhau diogelwch – o gyswllt Erw Las i bwynt ym mhen gorllewinol Fferm Gamlyn Isaf (lle mae ffens ac arwydd cau eisoes wedi'u gosod).

Bydd modd dilyn llwybr arall i gerddwyr gyferbyn â'r bont droed ar lan yr afon sy'n cysylltu Llwybr Cynon â Lôn Las. Mae'r llwybr yma'n arwain at stad breswyl sydd wedyn yn cyfeirio cerddwyr/beicwyr yn ôl i Lwybr Cynon trwy gyswllt Erw Las.

Dylai beicwyr ddod oddi ar y beic a defnyddio'r llwybr dargyfeirio i gerddwyr.

Mae'r gwaith ymchwilio yma'n cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid a sicrhawyd gan y Cyngor o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned leol am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 22/03/24