Skip to main content

Cytuno ar Raglen Gyfalaf y Priffyrdd a Thrafnidiaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf

Capital Programme grid - Copy

Mae Aelodau’r Cabinet wedi cytuno ar Raglen Gyfalaf gwerth £30.894miliwn ar gyfer Priffyrdd, Trafnidiaeth a Phrosiectau Strategol yn 2024/25. Mae hyn yn sicrhau bydd buddsoddiad mawr yn ein rhwydwaith ffyrdd a blaenoriaethau allweddol, fel lliniaru llifogydd, yn parhau y flwyddyn nesaf.

Yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 20 Mawrth, cymeradwyodd y Cabinet raglen sy'n dyrannu cyfalaf o £14.265miliwn (i Wasanaethau Technegol y Priffyrdd) a £16.629miliwn (i Brosiectau Strategol) ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2024. Bydd y cyllid yn parhau i helpu'r Cyngor i gynnal, atgyweirio, gwella a diogelu rhwydwaith priffyrdd a thrafnidiaeth Rhondda Cynon Taf ar gyfer y dyfodol. Bydd hefyd yn ei helpu i ymateb i ddulliau teithio sy'n newid a newid hinsawdd.

Mae'r rhaglen yn mynd law yn llaw â chyllid allanol y mae'r Cyngor wedi'i sicrhau. Mae gwaith mawr wedi’i gyflawni dros y tair blynedd ariannol ddiwethaf i atgyweirio pontydd, ffyrdd, cwlferau a waliau wedi'u difrodi gan Storm Dennis yn 2020. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid wedi’i dargedu ar gyfer hyn yn 2024/25. Bydd grantiau cyfalaf a refeniw gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Tomenni Glo hefyd yn parhau y flwyddyn nesaf, gan gynnwys ariannu gwaith adfer yn dilyn Tirlithriad Tylorstown.

Caiff ceisiadau hefyd eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar draws nifer o themâu yn ymwneud â thrafnidiaeth y flwyddyn nesaf – Diogelwch ar y Ffyrdd, Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, Teithio Llesol, y Gronfa Trafnidiaeth Leol, Ffyrdd Cydnerth, a gwella’r trefniadau ar gyfer y terfyn cyflymder diofyn o 20mya.

Mae’r Cyngor yn parhau i weithio gyda Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Metro De Cymru, gan gynnwys gwella gwasanaethau ar reilffyrdd Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful, wrth i Hwb Trafnidiaeth y Porth gael ei adeiladu. Mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn elwa o gynlluniau Rhaglen Seilwaith Blaenoriaeth Bws Metro+, tra bod Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ceisio cyllid mewn perthynas â Cherbydau Allyriadau Isel Iawn.

Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd (£14.265miliwn)

Mae'r Rhaglen yn dyrannu £5.98miliwn ar gyfer gosod wyneb newydd ar ffyrdd cerbydau a chynlluniau trin wynebau. Mae hyn yn cynnwys 64 o gynlluniau gosod wyneb newydd (cânt eu nodi yn yr Atodiad i'r adroddiad y gwnaeth y Cabinet ei ystyried ddydd Mercher). Yn ogystal, mae cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer 18 cynllun adnewyddu llwybrau troed (£575,000). Mae'r cyllid hefyd yn cynnwys gwella mynediad i'r anabl mewn gwahanol leoliadau.

Mewn perthynas â ffyrdd heb eu mabwysiadu, mae dyraniad o £200,000 yn golygu bydd modd cynnwys pedwar cynllun ychwanegol – oddi ar Deras Bronallt yn Abercwmboi, oddi ar Heol Brynmair ym mhentref Godreaman, yng Nghlos y Berllan yn y Porth, ac yn Heol Graig yn Ynys-hir.

Mae cyllideb o £6.58miliwn ar gyfer Strwythurau Priffyrdd yn golygu bydd modd bwrw ymlaen â llawer o gynlluniau – pont droed Stryd y Fasnach ar yr A4059 (Aberdâr), Pont Reilffordd Heol Llanwynno (Stanleytown), Pont Heol Glan (Cwmdâr), Pont Afon Cynon (Cwm-bach), cwlfer Pont Fictoria (Pontypridd), cwlfer Heol y Ffawydd (Ffynnon Taf), wal Stryd Margaret (Pont-y-gwaith), gwaith ar rwydi creigiau ar Ffordd Mynydd y Rhigos, a chwblhau pont droed Stryd y Nant (Ystrad). Diolch i'r cyllid, bydd modd adnewyddu waliau a thrwsio cwlferau mewn mannau cyfyng mewn llawer o leoliadau.

Cyfanswm y cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith atgyweirio yn dilyn Storm Dennis yn 2024/25 yw £3.61miliwn. Ymhlith y rhaglenni y mae gwaith gosod Pont Droed Castle Inn newydd yn Nhrefforest a gwaith atgyweirio Pont Heol Berw ym Mhontypridd, sy'n mynd rhagddynt. Mae gwaith atgyweirio pont droed yn Abercynon yn y cam cyn-adeiladu ar hyn o bryd.

Hefyd, bydd cyllid o £320,000 ar gyfer strwythurau parciau yn golygu bydd modd bwrw ymlaen â chynllun atgyweirio Pont Gelli Isaf (Aberdâr) ac atgyweirio wal gynnal yn Nheras Evans (Dinas). Mae'r Rhaglen Goleuadau Stryd gwerth £473,000 yn cynnwys gwaith i foderneiddio signalau, gwaith adnewyddu, a gwaith gosod colofnau a cheblau cyflenwi newydd. Mae cyllid ar gyfer cynlluniau rheoli traffig ar raddfa fach (£100,000), a gwaith i atgyweirio a gwella meysydd parcio (£35,000)

Cynlluniau Strategol (£16.629miliwn)

Mae'r Cyngor yn elwa'n gyson ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau draenio'r tir a pherygl llifogydd, gan roi arian cyfatebol sy'n 15% o'r gwerth. Mae rhaglen gyfalaf dreigl tair blynedd yn nodi prosiectau lleol, a chaiff achosion busnes yna'u cyflwyno gyda'r nod o sicrhau cyllid.

Caiff 15 o Gynlluniau Lliniaru Llifogydd Unigol mwy (gwerth £4miliwn) eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru – ynghyd â 14 o gynlluniau ar raddfa fach gwerth £1.11miliwn. Caiff ceisiadau grant hefyd eu cyflwyno i'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth ar gyfer 18 o gynlluniau, gwerth £2.7miliwn. Mae pob un o'r cynlluniau wedi'u henwi ar draws y tair rhaglen wedi'u rhestru yn Atodiad yr adroddiad i'r Cabinet ddydd Mercher.

Os bydd pob cais yn llwyddiannus, cyfanswm yr arian cyfatebol fydd £1.185miliwn, wedi'i gynnig drwy Raglen Gwelliannau Draenio/Perygl Llifogydd y Cyngor. Mae cyllid hefyd wedi'i ddyrannu i ddatblygu cynlluniau y tu hwnt i raglen eleni, i nodi cyfleoedd ar gyfer 2025/26 (£25,000), ynghyd â chyllid ar gyfer mân waith wedi'i nodi yn rhan o waith ymchwilio i lifogydd (£75,000).

Mae cyllid trafnidiaeth wedi'i ddyrannu i Goridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan (£5.12miliwn), yn dilyn y cyhoeddiad diweddar bod y Cyngor a Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos i ailgynllunio’r cynllun – gan ymgorffori trafnidiaeth gynaliadwy, trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol fel themâu craidd.

Yn yr un modd, caiff cyllid ei ddyrannu ar gyfer Coridor Tramwy Porth Cynon ar yr A465 (£1.26miliwn), ac mae Llywodraeth Cymru wrthi'n mireinio'r cynllun ar hyn o bryd.

Y gobaith yw caiff cynllun deuoli'r A4119 Coed-elái (£5.86miliwn) ei gwblhau erbyn haf 2024, ac mae cyllid y Cyngor yn cyd-fynd â'r arian wedi'i sicrhau diolch i Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU, ac mewn blynyddoedd blaenorol diolch i Lywodraeth Cymru. Mae £384,000 wedi'i ddyrannu er mwyn adolygu’r heriau traffig sy’n wynebu Cwm Rhondda Fawr, gan ganolbwyntio ar Stag Square yn Nhreorci.

Yn ogystal â hyn, mae £740,000 wedi'i ddyrannu i'r Rhaglen Parcio a Theithio i barhau i greu lleoedd parcio ychwanegol mewn gorsafoedd rheilffordd ochr yn ochr â’r Metro. Ymhlith y gwaith i'w wneud yn 2024/25 yw prosiect Parcio a Theithio Treorci, i'w weithredu gan gwmni Trafnidiaeth Cymru ar ran y Cyngor. Bydd cyllid o £1.39miliwn ar gyfer Rhaglen Gwneud Defnydd Gwell yn targedu gwelliannau cost-isel, gwerth uchel i ddatrys materion hygyrchedd a chysylltedd. Bydd elfen o'r gwaith yma'n canolbwyntio ar goridor yr A4059 yng Nghwm Cynon.

Meddai'rCynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi: “Mae Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd a Thrafnidiaeth flynyddol yn nodi prif feysydd blaenoriaeth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad allweddol i gynnal a chadw ffyrdd lleol, mynd i’r afael â lliniaru llifogydd, atgyweirio strwythurau, a datblygu prosiectau traffig strategol mwy. Mae rhaglen 2024/25 yn cynrychioli swm sylweddol o £30.894miliwn ar gyfer y gwasanaeth, sy'n parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau buddsoddi'r Cyngor.

“Rydyn ni hefyd yn parhau i fynd ar drywydd cyfleoedd ariannu allanol i gyd-fynd â'n buddsoddiad ni. Y cyllid y flwyddyn nesaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith yn dilyn Storm Dennis yw £3.61miliwn. Bydd hefyd gyllid ar wahân ar gyfer tomenni glo, wrth i ni barhau i atgyweirio seilwaith sydd wedi’i ddifrodi, gan hefyd ymateb i fygythiad newid hinsawdd. Rydyn ni hefyd wedi gwneud cais am gyllid pwysig ar gyfer lliniaru llifogydd, diogelwch ar y ffyrdd, llwybrau diogel, a theithio llesol, er mwyn helpu i gyflawni gwelliannau pellach mewn cymunedau.

“Mae rhaglen 2024/25 yn dyrannu bron i £6miliwn ar gyfer gwaith gosod wyneb newydd ar ffyrdd, gwella llwybrau troed a ffyrdd heb eu mabwysiadu, er mwyn parhau â’n dull ariannu carlam yn y maes yma. Y rheswm am swm y buddsoddiad yma yw am fod cyflwr ein ffyrdd yn wael yn gyffredinol, er bod eu cyflwr wedi gwella ar y cyfan dros nifer o flynyddoedd. Er enghraifft, roedd angen gwaith cynnal a chadw ar 15.7% o'r holl ffyrdd dosbarthedig yn 2010/11, o'i gymharu â'r ffigur dangosol ar gyfer 2022/23 sy'n nodi mai'r ffigur bellach yw 3.6%.

“Mae Strwythurau Priffyrdd hefyd yn faes buddsoddi allweddol arall i’r gwasanaeth. Bydd dyraniad o £6.5miliwn ar gyfer rhaglen y flwyddyn nesaf yn datblygu naw cynllun mwy – gan gynnwys cyflawni gwaith atgyweirio rhwydi creigiau ar Ffordd Mynydd y Rhigos yr haf yma. Bydd rhaglen ar wahân Storm Dennis yn cefnogi cynlluniau Pont Droed Castle Inn a’r Bont Wen Castle Inn, a fydd yn cael eu cwblhau yn y misoedd i ddod.

“Mae gwaith deuoli Coed-elái ar yr A4119 yn mynd rhagddo a'r disgwyl yw bydd yn cael ei gwblhau yr haf yma, wrth i ni barhau i weithio'n agos â Llywodraeth Cymru ar ddatrysiadau wedi'u targedu mewn perthynas â heriau traffig yn Llanharan a Chwm Cynon Uchaf. Yn olaf, mae ein Rhaglen Parcio a Theithio yn parhau i chwilio am ffyrdd o gynyddu nifer y lleoedd parcio mewn gorsafoedd rheilffordd ar gyfer Metro De Cymru. Caiff cynllun pwysig ei roi ar waith yn Nhreorci eleni.

“Yn dilyn cytundeb Aelodau’r Cabinet ddydd Mercher, bydd Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol newydd yn cael ei mabwysiadu gan y Cyngor, ac yn cael ei chyflawni yn y flwyddyn i ddod o 1 Ebrill 2024.”

Wedi ei bostio ar 25/03/24