Skip to main content

Newidiadau i Gludiant Ysgol wedi'u cymeradwyo

Mae Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i  roi newidiadau ar waith i ddarpariaeth Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol (Cludo Disgyblion) o fis Medi 2025 sy'n berthnasol i ddisgyblion ysgol uwchradd a myfyrwyr ôl-16 oed cymwys.

Mewn ymateb i adborth yr ymgynghoriad, bydd cludiant i ysgolion cynradd yn aros fel y mae. Mae hyn yn golygu y bydd cludiant dewisol am ddim yn parhau i gael ei ddarparu i ddisgyblion oedran cynradd sy'n byw 1.5 milltir neu ymhellach o'u man dysgu.

Bydd y newidiadau ehangach yn golygu bod y ddarpariaeth cludiant ar gyfer ysgolion uwchradd a myfyrwyr ôl-16 oed mewn ysgolion/colegau cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg a ffydd yn unol â meini prawf pellter statudol  a nodir ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd cludiant am ddim yn cael ei ddarparu i ddisgyblion sy'n byw 3 milltir neu fwy i ffwrdd o'u man dysgu (ar hyn o bryd mae'n cael ei ddarparu i ddisgyblion sy'n byw 2 filltir neu ymhellach).

Hyd yn oed pan ddaw’r newidiadau i rym ym mis Medi 2025, bydd y Cyngor yn parhau i weithredu un o’r darpariaethau Cludiant Cartref i’r Ysgol mwyaf hael yng Nghymru, gyda sawl elfen uwchlaw lefel statudol Llywodraeth Cymru.

Byddai cynnig cychwynnol y Cyngor wedi gwireddu arbedion blwyddyn lawn o tua £2.5m, sydd bellach wedi'u lleihau £200,000 oherwydd y penderfyniad i gynnal y ddarpariaeth bresennol ar gyfer disgyblion oedran ysgol gynradd cymwys.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Yr wythnos diwethaf, cytunodd Aelodau o’r Cyngor ar y gyllideb fwyaf heriol hyd yma, sef bod angen cau bwlch o £36.65 miliwn rhwng cost darparu gwasanaethau a’r swm o arian sydd gennym ni i’w wario.

“Fel Cyngor, rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu mewn ffordd ariannol gynaliadwy. Mae'n sefyllfa ariannol anodd i Gynghorau ledled y DU, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf, heb unrhyw arwydd o ryddhad ar y gorwel.

“Cafodd y trigolion gyfle i leisio’u barn yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac mae Aelodau o’r Cabinet wedi gwrando arnyn nhw. Ond ar yr un pryd, bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd i gydbwyso cyllideb y Cyngor.

“Dyna pam mae’r Cabinet wedi bwrw ymlaen â’r cynigion ehangach, ond wedi penderfynu i beidio â newid Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf, gan gadw’r cymhwyster ar gyfer dysgwyr ysgol gynradd yn 1.5 milltir neu fwy.

“Bydd pob disgybl ysgol uwchradd a myfyrwyr ôl-16 oed yn gymwys i gael cludiant am ddim yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru, sydd ar waith yn 18 o’r 22 o Gynghorau Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd disgyblion sy'n byw 3 milltir neu fwy i ffwrdd o'u man dysgu yn dal i gael cludiant am ddim.

“Rydym ni'n cydnabod na fydd y penderfyniad hwn yn boblogaidd gyda’r rhai sy'n mynd i gael eu heffeithio, ond mae adborth o’r ymgynghoriad wedi’i ystyried ochr yn ochr ag ystyried yr asesiadau effaith perthnasol, a dyna pam nad oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud ar gyfer disgyblion cynradd.

“Bydd y newidiadau ar gyfer disgyblion uwchradd a myfyrwyr ôl-16 oed cymwys yn dod i rym o fis Medi 2025.”

Mae’r penderfyniad hwn yn dilyn proses ymgynghori sylweddol a welodd bron i 3,000 o ymatebwyr yn cyflwyno adborth ar y cynigion.

Mae cynghorau ar draws y DU yn wynebu heriau cyllidebol sylweddol yn seiliedig ar ffactorau gan gynnwys lefel uchel chwyddiant, yr argyfwng Costau Byw parhaus, a galw cynyddol am wasanaethau. Fel y rhan fwyaf o bethau, mae cost Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol wedi cynyddu’n aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda chostau’n cynyddu o £8 miliwn yn 2015 i dros £15 miliwn yn 2023/24.

Wedi ei bostio ar 21/03/24