Skip to main content

Dyrannu cyllid er mwyn cynnal gwaith cynnal a chadw yn ein hysgolion yn ystod 2024/25

School generic 2023 - rhydyfelin

Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo rhaglen gwerth £6.315 miliwn sy’n cynnwys gwaith cynnal a chadw, gwaith cyffredinol ac atgyweiriadau a fydd yn cael eu cynnal yn ysgolion y Cyngor yn ystod y flwyddyn nesaf i sicrhau bod ein hadeiladau'n parhau i fod yn ddiogel, yn dal dŵr ac yn gynnes.

Mae Rhaglen Gyfalaf y Gyfadran Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yn mynd ati bob blwyddyn i glustnodi cyllid  i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cynnal ac mewn cyflwr addas. Mae llawer o'r gwaith yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau'r haf. Dyrannwyd cyllid gwerth £6.315 miliwn yn ddiweddar gan y Cyngor llawn ar gyfer y flwyddyn nesaf, a chytunodd y Cabinet ar raglen 2024/25 yn ystod eu cyfarfod Ddydd Mercher, 20 Mawrth.

Roedd adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Mercher yn manylu ar restr o brosiectau cynnal a chadw ar gyfer ysgolion penodol. Bydd y rhain  yn cael eu cyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2024. Mae crynodeb o’r categorïau a’r dyraniadau allweddol wedi’i gynnwys isod:

Rhaglen y Gyfadran Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ar gyfer 2024/25 - £6.315 miliwn

Adnewyddu cegin (£390,000) yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Gyfun Cwm Rhondda - bydd tua thri chwarter o’r cyllid cyffredinol yn cael ei ddefnyddio i ddisodli offer nwy aneffeithlon sy'n heneiddio gan osod opsiynau eraill sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, ynghyd ag amnewid offer cegin mewn gwahanol ysgolion.

Gosod ffenestri a drysau newydd (£100,000) yn Ysgol Gyfun Aberpennar, Ysgol Iau Tonpentre ac Ysgol Gynradd y Parc.

Gwaith hanfodol (£651,000) yng Nghanolfan Addysg Amgen Tŷ Castan, Ysgol Gynradd Maes-y-coed, Ysgol Gynradd Alaw, Ysgol Babanod Tonpentre, Ysgol Gynradd Bodringallt, Ysgol Gynradd Cwmdâr, Ysgol Gymuned Glynrhedynog, Ysgol Gynradd Trerobart, Ysgol Babanod Trallwng, ac Ysgol Gynradd Trehopcyn. Mae'r gwaith angenrheidiol yn amrywio o waith atgyweirio allanol, gwelliannau i lwybrau troed, adnewyddu ystafelloedd dosbarth a choridorau, ailfodelu, ac ailosod estyllod llawr.

Adnewyddu toiledau (£308,000) mewn pum ysgol gynradd leol – Ysgol Gynradd y Darren-las (prosiect cam un), Ysgol Gynradd Maes-y-coed, Ysgol Gynradd Cwmdâr, Ysgol Gynradd Oaklands, ac Ysgol Gynradd Treorci.

Gwaith cydymffurfio (£1.939 miliwn) i greu tair ystafell ddosbarth newydd sbon yn Ysgol Arbennig Maesgwyn gan ddefnyddio £1.45 miliwn o'r cyllid a ddyrannwyd. Bydd cynllun ailfodelu a gwella hefyd yn mynd rhagddo yn Ysgol Tŷ Coch, a bydd ysgolion amrywiol yn elwa o ardaloedd hylendid/newid wedi’u huwchraddio, yn ogystal â gwaith addasu ystafelloedd dosbarth a gwelliannau acwstig ar gyfer Dosbarthiadau Cynnal Dysgu.

Uwchraddio/adnewyddu boeleri (£290,000) mewn chwe ysgol leol – Buarth y Capel, Ysgol Gynradd Cwm Clydach, Ysgol Gynradd Llanhari, Ysgol Gynradd Penrhiwceibr, YGG Ynys-wen, ac Ysgol Gynradd Pont-y-gwaith – ynghyd â gwaith uwchraddio ym mhrif ystafell beiriannau Ysgol Gyfun Bryncelynnog.

Gwaith to (£1.094 miliwn) i ddarparu to newydd ar gyfer Ysgol Babanod Tonpentre, a gosod to newydd ar Ysgol Gynradd Cap-coch, Ysgol Gynradd Penyrenglyn ac Ysgol Gynradd Pen Pych. Mae cyllid hefyd wedi’i ddyrannu i gynnal chwe chynllun gwella arall mewn perthynas â thoeon- Ysgol Gynradd Cwmlai, Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, Ysgol Iau Tonpentre, Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru, Ysgol Gynradd y Santes Fererid Eglwys Gatholig Rhufain, ac YGG Ynys-wen.

Gwaith ailweirio trydanol (£115,000) mewn tair ysgol – Ysgol Gynradd Blaengwawr, Ysgol Gynradd y Darren-las ac Ysgol Gynradd Llanhari – a gwaith uwchraddio larymau tân (£45,000) yn Ysgol Gyfun Aberpennar.

Mae meysydd ariannu eraill yn cynnwys Arolygon Cyflwr Mynediad Addysg a Chynhwysiant, trwyddedau caledwedd/meddalwedd TGCh, a gwaith i gefnogi’r broses o gyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i Bawbmewn ysgolion cynradd. Mae rhestr lawn o'r dyraniadau cyllid wedi'i chynnwys yn Atodiadau’r adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r Cabinet ddydd Mercher.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Bob blwyddyn, mae’r Cyngor yn dyrannu cyllid ar gyfer rhaglen gyfalaf i sicrhau bod ein hadeiladau ysgol yn parhau i gael eu cynnal a’u cadw’n dda, ac yn parhau i ddarparu amgylcheddau diogel ac addas ar gyfer disgyblion ac aelodau staff. Mae'r rhaglen yn cynrychioli rhan bwysig o'n Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ehangach, ac rwy'n falch bod cyllid gwerth dros £6.3 miliwn bellach wedi'i ddyrannu ar gyfer 2024/25. 

“Mae mwyafrif y gwaith yn amrywio o waith uwchraddio cyfleusterau allweddol yn ein hysgolion megis toiledau, ceginau, boeleri a larymau tân, tra’n gwella coridorau, ystafelloedd dosbarth, a rhannau allanol o’r adeiladau. Mae rhaglen 2024/25 hefyd yn nodi cynllun mwy i adeiladu estyniad tair ystafell ddosbarth yn Ysgol Arbennig Maesgwyn yng Nghwmdâr – buddsoddiad gwerth £1.45 miliwn y mae mawr ei angen i gynyddu capasiti er mwyn ymateb i’r galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig.

“Un o ymrwymiadau allweddol y rhaglen cynnal a chadw yw defnyddio cadwyni cyflenwi a chwmnïau lleol i wneud y gwaith yn ein hysgolion, lle bo hynny’n bosibl. Trwy wneud hyn, mae’r gwelliannau yn ein helpu i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a darparu cyfleusterau dysgu rhagorol i’n pobl ifainc, ac yn cefnogi busnesau yn y gymuned sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu. 

“Mae'r rhaglen gyfalaf ar gyfer gwaith cynnal a chadw hefyd yn ategu buddsoddiad ehangach y Cyngor mewn cyfleusterau addysg newydd sbon ar draws y Fwrdeistref Sirol, sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae buddsoddiad ar y cyd gwerth £79.6 miliwn drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy  yn golygu bod modd bwrw ymlaen â phedwar prosiect mawr ym Mhontypridd a'r ardal gyfagos eleni, yn ogystal ag adeiladau ysgolion cynradd newydd sbon yng Nglynrhedynog, Pont-y-clun, Pentre’r Eglwys a Llantrisant sy’n costio dros £71 miliwn.

“Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ddydd Mercher, bydd swyddogion nawr yn mynd ati i baratoi’r rhaglen cynnal a chadw er mwyn cyflawni’r gwaith yma. Yn y mwyafrif o achosion, bydd y gwelliannau’n cael eu cyflawni yn ystod gwyliau’r ysgol i fanteisio ar yr adeiladau gwag heb amharu ar addysg y disgyblion.”

Wedi ei bostio ar 26/03/2024