Skip to main content

Gwaith dros nos ar ffordd osgoi Pentre'r Eglwys cyn hir

roads two

Bydd gofyn cau'r A473 sef ffordd osgoi #Pentrereglwys dros nos am un noson yna cau lonydd dros nosweithiau, drwy gydol yr wythnos nesaf, ar gyfer gwaith hanfodol – mae hyn yn digwydd dros nos i sicrhau cyn lleied â phosib o amharu.

Bydd y cynllun yn dechrau gyda chau'r ffordd dros nos rhwng 8pm nos Lun Mehefin 24 hyd nes 6am ddydd Mawrth Mehefin 25.

Bydd yr A473 ar gau rhwng cylchfannau Beddau a Cross Inn – bwriwch olwg ar y map sy'n dangos pa ran o'r ffordd fydd ar gau a'r llwybr gwyro yma.

Mae llwybrau amgen ar gael i gerbydau ar yr A473, A4119, M4, cyffordd 32 yr M4, A470, Cylchfan Glan-bad, Heol Tonteg a ffordd osgoi Pentre'r Eglwys – neu'r un llwybr i'r cyfeiriad arall.

Fydd dim mynediad i gerddwyr na cherbydau'r gwasanaethau brys.

Yn dilyn hyn, bydd un lôn ar gau dros nosweithiau ar ffordd osgoi Pentre'r Eglwys i gyfeiriad y de, 8pm-7.30am ddydd Mawrth hyd ddydd Gwener (Mehefin 25-28).

Bydd gofyn cael goleuadau traffig dwyffordd ar gyfer y gwaith, bydd modd eu rheoli â llaw i ganiatáu llif y traffig pe bai angen hyn.

Mae arwyddion wedi'u gosod ar y safle er mwyn hysbysu gyrwyr o flaen llaw.

Wedi ei bostio ar 18/06/2024