Skip to main content

Caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith nesaf ar y llwybr i'r gymuned yng Nghwm Rhondda Fach

Rhondda Fach Active Travel phase one complete 2 - Copy

Mae cam un wedi'i gwblhau'n flaenorol

Mae'r Cyngor wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer dwy elfen nesaf Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach – i adeiladu cysylltiadau cymunedol lleol ym Maerdy, a gwella'r llwybr cymunedol presennol rhwng Glynrhedynog a Tylorstown.

Bydd Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach yn creu llwybr 10 cilomedr i gerddwyr a beicwyr rhwng Maerdy a Thylorstown, a fydd yn cael ei gyflawni dros bum cam. Mae cam un wedi'i gwblhau o leoliad i’r gogledd o’r ystad ddiwydiannol, i bwynt ger Cofeb Porth y Maerdy. Mae cam dau wedi'i gwblhau'n sylweddol, ac yn parhau â’r llwybr tua’r de trwy'r Maerdy ar hyd aliniad yr hen reilffordd.

Cafodd ceisiadau ar wahân, a oedd yn gofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer camau tri a phedwar, eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ddydd Mercher, 6 Mehefin. Cafodd y ceisiadau eu hargymell i'w cymeradwyo mewn adroddiadau swyddogion ar wahân yn y cyfarfod ddydd Iau. Rhoddodd aelodau'r pwyllgor ganiatâd llawn ar gyfer pob un o'r cynlluniau.

Cais Cynllunio Cam Tri

Bydd y cam yma'n ymgymryd â mân waith i wella'r llwybr seiclo ym Maerdy (Llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 881), a chreu llwybr newydd sy'n arwain at Stryd Richard a Phwll Nofio Glynrhedynog – ar hen domen gwastraff glofa wedi'i leoli i'r gogledd-orllewin o'r pwll nofio. Bydd yr elfen hon yn gofyn am waith sylweddol i sicrhau bod graddiant rhesymol i'r llwybr.

Mae'r cais yn ymwneud â dwy ran o dir – llwybr cerdded heb ei wneud rhwng Heol yr Orsaf (cyferbyn â chyffordd Stryd y Stiwt) a'r tu ôl i Stryd Blake, ac ardal heb ei datblygu o wastraff glofa i'r gogledd-ddwyrain o Stryd Richard a Theras Glanville. Maen nhw'n ffurfio ardal gyfun o tua 2.9 hectar ac maen nhw tua 1.5km o hyd. Mae'r llwybr blaenorol yn mynd yn agos at afon Rhondda Fawr ac yn cynnwys pont dros gwrs dŵr bach.

Argymhellodd swyddogion gymeradwyo'r cais gan fod ei angen yn rhan o waith gwella Teithio Llesol ehangach. Bydd yn gwella wyneb y trac a'r system ddraenio'n sylweddol, a bydd yn darparu pwyntiau mynediad newydd, diogel a chyfleus i'r gymuned.

Cais Cynllunio Cam Pedwar

Bydd y cam hwn yn parhau â'r llwybr sy'n cael ei greu yng ngham dau, gan wella'r llwybr ar aliniad yr hen reilffordd. Bydd yn mynd ar draws Glynrhedynog o bwynt i'r gogledd o Deras Ffaldau (ger Maerdy) i bwynt sydd i ogledd-ddwyrain o Gartref Angladdau Dolycoed (Tylorstown), a heibio i Flaenllechau. Bydd cam pedwar hefyd yn cynnwys creu cyswllt newydd i Stryd yr Afon yng ngogledd Glynrhedynog, gan adeiladu pont a thrwsio pont arall ym Mlaenllechau.

Mae'r llwybr presennol yn llwybr troed heb ei greu sy'n gyffredinol wastad, ac sy'n mynd ar hyd llawr y cwm. Mae'n mynd yn agos at ac ar draws afon Rhondda Fach. Mae angen gwaith torri, llenwi a lefelu i gynnal lled dderbyniol ar gyfer y llwybr, ac i atgyweirio ardaloedd sydd wedi'u herydu. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr ymhell o eiddo preswyl, oni bai am adran fechan ym Mlaenllechau ac ar hen safle'r orsaf.

Argymhellodd swyddogion gymeradwyo'r cais gan ei fod yn gam allweddol o'r Llwybr Teithio Llesol ehangach, bydd yn gwella'r llwybr i'r gymuned presennol ar gyfer defnyddwyr, a bydd yn cefnogi nodau creu ardaloedd sy'n hyrwyddo iechyd a lles.

Meddai Stephen Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf,: Mae'r Cyngor eisoes wedi amlinellu ei fwriad i sefydlu Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach, trwy wella'r llwybr ar gyfer cerddwyr a beicwyr sy'n ymestyn dros 10km rhwng Maerdy a Tylorstown. Mae Teithio Llesol yn fuddiol i iechyd a lles preswylwyr ac yn annog rhagor o bobl i gerdded neu feicio yn lle gyrru. Mae hefyd yn helpu'r amgylchedd ac yn lleihau tagfeydd ar ein ffyrdd.

“Cafodd y ceisiadau cynllunio a gafodd eu trafod eu cyflwyno i'r Cyngor yn dilyn ymgynghoriadau ar wahân yn gynharach yn 2024, a oedd yn seiliedig ar gam tri a phedwar. Gyda chaniatâd cynllunio pellach wedi'i gymeradwyo, bydd swyddogion yn dechrau ar y ddau gam nesaf – i wella'r cyswllt ym Maerdy a pharhau i greu y prif lwybr i'r gymuned trwy bentref Glynrhedynog."

Wedi ei bostio ar 12/06/2024