Skip to main content

Gwaith adnewyddu'r Bont Wen yn symud ymlaen i'r cam nesaf

Berw Road Bridge Photo - Copy

Bydd cynllun atgyweirio sylweddol Pont Heol Berw (Y Bont Wen) yn ardal Pontypridd yn symud ymlaen i'r cam nesaf.

Mae'r holl atgyweiriadau angenrheidiol ar ochr isaf y bont restredig wedi'u cwblhau yn ddiweddar, ynghyd â gwaith paentio olaf y strwythur.

O ddydd Llun, 8 Ionawr, bydd angen cau'r bont i gerddwyr (am weddill y cyfnod gwaith), er mwyn tynnu'r sgaffaldiau a dechrau ar gam nesaf y gwaith.

Bydd rhan o’r Rhodfa rhwng rhifau 70 ac 84 ar gau o ddydd Llun hefyd, gyda llwybr amgen ar gael.

Mae'r gwaith sy'n weddill ar y strwythur yn cynnwys cael gwared ag wyneb y ffordd, atgyweiriadau concrit, a gwaith i wneud dec concrit y bont yn wrth-ddŵr – sy’n golygu y bydd angen dargyfeirio prif bibell nwy dros dro.

Bydd gwaith draenio, gosod ymyl palmant a llwybr troed newydd, a gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd yn dilyn.

Bydd y gwaith olaf yn cynnwys adnewyddu’r rheiliau addurniadol, ac atgyweirio/paentio canllawiau’r bont, cyn ailagor y bont i gerddwyr a thraffig i'r ddau gyfeiriad (gyda chyfyngiad 7.5 tunnell ar waith).

Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni yn rhan o raglen fawr o waith atgyweirio yn sgil Storm Dennis yn Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2023/24, sy'n cael ei hariannu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.

Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich amynedd a chydweithrediad parhaus.

Wedi ei bostio ar 04/01/2024