Skip to main content

Treftadaeth yn Rhondda Cynon Taf: Dweud eich dweud.

survey pic

 Mae Rhondda Cynon Taf yn llawn hanes a threftadaeth. Mae carneddau o'r Oes Garreg, Yr Oes Efydd a'r Oes Haearn i'w canfod yn ein bwrdeistref sirol yn ogystal â beddau Rhufeinig.  Gwnaethon ni adael ein hoel ar y byd yn ystod y Chwyldro Diwydiannol pan oedd glo gafodd ei gloddio yma ei allforio i bedwar ban byd gyda phobl yn symud yma o dramor yn chwilio am swyddi yn y pyllau glo.  Heddiw, mae modd i drigolion ac ymwelwyr fynd ar deithiau hanesyddol yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ac Amgueddfa Crochendy Nantgarw a darganfod arddangosfeydd yn Amgueddfa Pontypridd ac Amgueddfa Cwm Cynon.  Yn 2024, bydd traddodiadau a threftadaeth Gymreig yn cael eu dathlu ym Mhontypridd wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn y dref ar 3 Awst.

Mae cymaint i'w ddarganfod o ran hanes a threftadaeth leol. Bellach, mae modd i drigolion leisio'u barn am sut rydyn ni'n cadw a dathlu'r hanes yna. Mae Carfan Dreftadaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwahodd trigolion i gwblhau arolwg byr er mwyn casglu eich barn am beth mae treftadaeth yn ei olygu i chi a sut hoffech chi ei weld yn cael ei gadw, ei arddangos a'i hyrwyddo.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, sy'n gyfrifol am y Gwasanaeth Treftadaeth: 

Mae cadw ein hanes unigryw mor bwysig er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ddeall eu treftadaeth.  Mae Rhondda Cynon Taf yn llawn henebion sy'n coffáu'r bobl a'r digwyddiadau sydd wedi siapio'r ardal rydyn ni'n byw ynddi heddiw. Mae Carfan Dreftadaeth yn cyflawni gwaith anhygoel gydag ysgolion ac yn hyrwyddo digwyddiadau a phobl hanesyddol drwy'r Cynllun Placiau Glas yn ogystal â rheoli arteffactau sy'n cael eu rhoddi i'w cadw a'u harddangos yn ein hamgueddfeydd. Bydd canlyniad yr arolwg yma'n helpu i lywio Strategaeth Dreftadaeth, a fydd yn nodi sut rydyn ni'n symud yn ein blaenau gan ddiogelu ein gorffennol. Byddwn i'n annog i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Rhondda Cynon Taf i gwblhau'r arolwg er mwyn sicrhau bod eu barn yn cael ei gofnodi.

Mae modd cwblhau'r Arolwg Dreftadaeth yma a bydd ar agor tan 9 Chwefror.

Wedi ei bostio ar 02/01/24