Skip to main content

Gwaith gosod cwlfer newydd yn Aberpennar er mwyn gwrthsefyll llifogydd yn well

Dyffryn Road 2 - Copy

Bydd gwaith gosod system gwlfer well ar ran o Heol y Dyffryn yn Aberpennar yn dechrau'n fuan, gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru sydd wedi'i sicrhau gan y Cyngor er mwyn lliniaru risg llifogydd yn lleol.

Bydd gwaith y cynllun yn cael ei gynnal ger cyffordd Heol y Dyffryn â Heol Aber-ffrwd, gan osod strwythur sydd â chapasiti uwch yn lle’r cwlfer presennol, er mwyn ymdopi â chyfnodau o law trwm. Bydd y gwaith sydd i ddod hefyd yn cynnwys gosod siambr archwilio newydd a strwythur gollyngfa.

Bydd Carfan Gofal y Strydoedd y Cyngor yn gweithio ar y cyd â'i his-gontractwr enwebedig i ddarparu'r cynllun ar y safle o ddydd Llun, 8 Ionawr (2024) ymlaen. Mae disgwyl i'r gwaith bara oddeutu pum wythnos. Bydd angen cau lôn ar Heol y Dyffryn gan ddefnyddio goleuadau traffig dros dro. Ni fydd newid i lwybrau bws lleol. Bydd angen cau llwybr troed hefyd, gydag arwyddion yn nodi llwybr dros dro i gerddwyr drwy ardal y gwaith.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth 85% gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu'r cynllun, drwy'r Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach. Mae'r 15% o gyllid sy'n weddill yn cael ei ddarparu trwy Raglen Cyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Y gwaith uwchraddio cwlfer yma yn Aberpennar yw'r cynllun diweddaraf ymhlith nifer ledled y Fwrdeistref Sirol sydd wedi’u targedu i leihau risg llifogydd mewn cymunedau lleol. Bydd y gwaith yn cynnwys gosod cwlfer sy'n fwy addas gyda chapasiti uwch na'r un presennol, gan baratoi ar gyfer cyfnodau o law trwm yn y dyfodol. Mae'r buddsoddiad gwerth £105,000 yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gydag arian cyfatebol gan y Cyngor.

"Yn 2023/24, rydyn ni wedi sicrhau £4.8 miliwn ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd drwy raglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach Llywodraeth Cymru - ynghyd â £900,000 o'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth. Mae hyn ar ben rhaglen buddsoddiad mewn Draenio/Risg Llifogydd y Cyngor, gyda chyllid ychwanegol gwerth £200,000 yn cael ei ddyrannu ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd ym mis Tachwedd yn rhan o fuddsoddiad ehangach ym meysydd blaenoriaeth y Cyngor.

"Bydd y cynllun arfaethedig ar Heol y Dyffryn a Heol Aber-ffrwd yn Aberpennar yn dechrau ar 8 Ionawr, a bydd angen cau lôn a dargyfeirio llwybr troed. Bydd y Cyngor yn gweithio'n galed i darfu cyn lleied â phosibl ar drigolion a defnyddwyr y ffyrdd, wrth i ni ddarparu'r buddsoddiad lliniaru llifogydd pwysig yma ar ran y gymuned."

Wedi ei bostio ar 04/01/2024