Skip to main content

Maethu Cymru RhCT

“I ni, mae maethu gyda’n hawdurdod lleol wedi profi i fod yn bopeth y dywedwyd wrthym na fyddai.”

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol.

Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru RhCT – y rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae ein rhieni maeth yn rhoi cartrefi sefydlog llawn cariad i gannoedd o blant a phobl ifainc yn Rhondda Cynon Taf nad oes modd iddyn nhw fyw gyda'u teuluoedd biolegol.

Mae'r cartrefi yma'n rhoi diogelwch, cariad a sicrwydd i blant a phobl ifainc dan ofal Rhondda Cynon Taf sydd eu hangen. Mae ein rhieni maeth yn gwneud gwaith gwych i'w helpu nhw i ffynnu.

Mae Maethu gyda Maethu Cymru RhCT yn rhoi lefel unigryw o gymorth i ofalwyr maeth. Rydym yn darparu cyfleoedd hyfforddi parhaus, anogaeth a chefnogaeth barhaus, yn ogystal â chymuned faethu weithgar ac ymgysylltiol! Yn bwysicach oll, rydyn ni'n rhoi'r opsiwn i blant a phobl ifainc fyw'n lleol mewn ardal maen nhw'n teimlo'n gyfforddus ynddi ac sy'n gyfarwydd iddyn nhw. 

Trwy faethu gyda Maethu Cymru RhCT, cewch fod yn dawel eich meddwl nad ydyn ni'n sefydliad sy'n canolbwyntio ar elw. Wrth i Lywodraeth Cymru symud tuag at ddileu elw o ofal plant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal yng Nghymru, dydy Maethu Cymru RhCT erioed wedi canolbwyntio ar elw. Mae bob amser yn canolbwyntio ar y gofal gorau i blant a phobl ifainc yn ein hardal. Rydym yn gwerthfawrogi pob gofalwr maeth, ac yn gwerthfawrogi’r gwahaniaeth anhygoel y maent yn ei wneud i fywydau plant.

Rydyn ni'n croesawu ymholiadau gan bobl o bob cefndir, grŵp ethnig, crefydd a rhywioldeb. Os oes gyda chi ystafell sbâr, yr amser a'r brwdfrydedd i'w rhoi i blentyn sydd eu hangen fwyaf, hoffen ni glywed gennych chi. Gallech chi roi cartref i blentyn a newid eu bywyd er gwell, gan eu helpu nhw i gyflawni eu potensial.  

Os oes gyda chi ddiddordeb neu os ydych chi eisiau cael gwybod rhagor am faethu, mae carfan Maethu Cymru RhCT ar gael i gael sgwrs gyfeillgar sy'n llawn gwybodaeth gyda chi. Mae ein cymunedau yn Rhondda Cynon Taf yn allweddol o ran cyflawni'r newid yma. Cysylltwch â nhw heddiw!”

Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.

Esboniodd rhieni maeth Tim a Tor, a drosglwyddodd o asiantaeth annibynnol i Faethu Cymru RhCT, eu taith – gan gynnwys y gwahaniaeth maen nhw wedi'i weld wrth faethu gyda'u hawdurdod lleol:

“Dechreuon ni faethu yn 2015 gydag asiantaeth faethu breifat. Roedden ni'n adnabod rhieni maeth a oedd yn maethu gyda'r asiantaeth honno felly dyna oedd y rheswm dros ei dewis. Roedd yn asiantaeth fach wedi'i rhedeg gan deulu ar y pryd. Dros y 6 blynedd nesaf, daeth yr asiantaeth yn fusnes felly roedd i'w weld fel bod elw'n fwy pwysig na'r plant. Dyma rywbeth doedden ni ddim yn cytuno ag e o gwbl.

Ar ôl gweld y newid yma yn y sector preifat, gofynnon ni i'n Hawdurdod Lleol am drosglwyddo ac 8 mis yn ddiweddarach, roedden ni'n rhieni maeth gyda Maethu Cymru RhCT! Fe wnaethon ni drosglwyddo gyda phlentyn sy'n derbyn ein gofal ac roedd yn broses ddi-dor.

I ni, mae maethu gyda'n hawdurdod lleol wedi bod yn brofiad hollol wahanol i'r hyn a nodwyd gan ein hasiantaeth flaenorol. Mae cymorth ardderchog ar gael, a hynny i ni ac i'r plant sy'n derbyn ein gofal. Mae llawer o achlysuron i'r plant, yn ogystal â hyfforddiant, sy'n well o lawer na'r hyn roedden ni'n arfer ei gael.

Dydyn ni ddim yn difaru gadael y sector preifat a symud i'n hawdurdod lleol.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i: https://rhct.fosterwales.gov.wales/already-fostering/

enquiries@fosterwalesctm.co.uk

Wedi ei bostio ar 12/09/23