Skip to main content

Cynllun gosod pont newydd yn Nhonpentre yn debygol o gael ei gwblhau mewn tua phythefnos

Maindy Road 1 - Copy

Mae’r Cyngor wedi rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf yn ymwneud â'r cynllun i osod pont newydd yn Nhonpentre, lle mae cynnydd da yn golygu bod y prif waith ar fin dod i ben – a hynny chwe wythnos yn gynt na’r disgwyl.

Dechreuodd y gwaith o osod pont newydd ar y B4223 Heol y Maendy, ger gorsaf yr heddlu ac ychydig tua'r de o'r gyffordd â'r Rhodfa, ddiwedd mis Gorffennaf. Mae'r strwythur mewn cyflwr gwael iawn ac mae angen gosod dec newydd. Mae'r broses yma wedi'i chymhlethu gan offer cyfleustodau allweddol ar gyfer dŵr, trydan, nwy a chysylltiadau ffeibr optig, y mae angen i asiantaethau allanol eu dargyfeirio.

Mae cynnydd cadarnhaol wedi’i wneud ers newid i weithio saith diwrnod yr wythnos ar ôl cwblhau gwaith dargyfeirio cyfleustodau, ac mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi bod disgwyl i'r prif waith ddod i ben yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 13 Tachwedd, yn ddibynnol ar y tywydd.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd contractwr y Cyngor yn parhau i weithio ar y safle. Bydd y gwaith yma'n cynnwys gosod canllawiau newydd cyn ailagor y ffordd sy'n teithio dros y bont a'r droedffordd gyfagos.

Mae'r contractwr yn parhau i addo cynnal elfennau o waith y cynllun yn fwy cyflym, lle bo hynny'n bosibl. Bydd y Cyngor yn rhoi'r newyddion diweddaraf maes o law er mwyn cadarnhau'r dyddiad pendant y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau, ynghyd â'r trefniadau i ailagor rhan y bont ar Heol y Maendy i gerbydau a cherddwyr.

O ganlyniad i gwblhau’r gwaith gosod pont newydd yn gynt na’r disgwyl, rhaid i drigolion fod yn effro i'r ffaith y bydd angen i Wales & West Utilities barhau i ddefnyddio mesurau rheoli traffig ar ôl i waith y Cyngor ddod i ben. Bydd y mesurau rheoli traffig ar waith i gyfeiriad y gogledd o'r bont, a hynny er mwyn cwblhau gwaith hanfodol i amddiffyn y cyflenwad nwy.

Diolch i drigolion, defnyddwyr y ffordd a'r gymuned ehangach am eu cydweithrediad parhaus wrth i'r gwaith angenrheidiol i osod pont newydd agosáu at ei gamau olaf.

Wedi ei bostio ar 31/10/23