Skip to main content

Lansiad Apêl y Pabi 2023: 28 Hydref ym Mharc Coffa Ynysangharad

plastic free poppy larger

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi y byddwn ni'n cynnal lansiad Apêl y Pabi De-ddwyrain Cymru 2023 ar gyfer Sul y Cofio. Bydd lansiad yr Apêl eleni'n cael ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Sadwrn 28 Hydref am 10.30am. Bydd y Lleng Brydeinig Frenhinol yn arwain y gwasanaeth, ac mae croeso i bawb ymuno er mwyn cefnogi Apêl y Pabi eleni. Dyma ofyn i aelodau'r cyhoedd gyrraedd erbyn 10.15am, er mwyn i'r gwasanaeth ddechrau am 10.30am.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Mae Gwasanaeth Apêl y Pabi blynyddol Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ffordd wych i'r gymuned anrhydeddu'r rheiny a wnaeth yr aberth eithaf, ynghyd â chodi arian ar gyfer achos da.

"Mae'r Cyngor bob amser wedi cefnogi'n cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys y Lleng Brydeinig Frenhinol, a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae'r ymgyrch codi arian yma'n bwysig iawn er mwyn darparu cymorth i gyn-filwyr dan anfantais.

"Mae'n bleser gyda fi ddweud y bydd lansiad apêl eleni'n cael ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ar 28 Hydref am 10.30am, ac mae croeso i bawb ymuno."

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi'r Lleng Brydeinig Frenhinol bob blwyddyn, gan annog pobl i wisgo pabi i dalu teyrnged i'r dynion a menywod a wnaeth aberthu cymaint i wasanaethu ein gwlad. Y Pabi yw symbol cenedlaethol y cofio, ac mae wedi cael ei ddefnyddio ers 1921 er mwyn codi arian ar gyfer cyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae Rhondda Cynon Taf yn parhau i ddathlu cyfraniad pob aelod o'n cymuned y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, sydd wedi ymroi i amddiffyn ein ffordd o fyw.

Eleni, roedd Senotaff Aberdâr a Chofeb Ryfel Comin Pontypridd yn 100 mlwydd oed. Penodwyd Swyddogion Henebion Treftadaeth a Chofebion Hanesyddol gan y Cyngor yn 2022, a chytunwyd i fuddsoddi £200,000 mewn rhaglen er mwyn sicrhau bod ein cofebion a'n senotaffau yn cael eu cynnal a'u cadw i'r safon uchaf, yn unol â chanllawiau'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel. Mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i anrhydeddu a chefnogi'r rheiny sydd wedi aberthu cymaint dros ein gwlad, ac mae sicrhau bod henebion ein cyn-filwyr yn cael eu cynnal a'u cadw yn ffactor allweddol o ran gwarchod eu treftadaeth a pharhau i gofio amdanyn nhw.

Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig ystod eang o gefnogaeth a chymorth ac mae wedi helpu dros chwe chant o gyn-filwyr a'u teuluoedd. Maen nhw'n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM i aelodau ddoe a heddiw'r Lluoedd Arfog. I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 07747 485 619 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5pm), neu e-bostiwch: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod mwy na 7,500 o gyn-filwyr y lluoedd arfog yn byw ledled Rhondda Cynon Taf. Yn ôl yn 2012, daeth y Cyngor yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, ymrwymiad a gafodd ei ailddatgan yn 2018 ac a osododd esiampl ar gyfer gweddill Cymru. Mae’r cyfamod yn gytundeb cyd-ddealltwriaeth rhwng y gymuned sifil a’r lluoedd arfog ledled y Fwrdeistref Sirol.

Yn 2017, cyflwynwyd Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn i Gyngor Rhondda Cynon Taf am ein cefnogaeth barhaus i gymuned y lluoedd arfog. Cadwyd y wobr hon ym mis Hydref 2022 yn dilyn asesiad o ymrwymiadau’r Cyngor, gan gynnwys cyflwyno’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Cyn-filwyr a Milwyr Wrth Gefn ym mis Ionawr 2022.

Wedi ei bostio ar 26/10/23