Skip to main content

Noson Guto Ffwoc: Byddwch yn ystyriol o bobl eraill a chadw'n ddiogel eleni

Mae hi'n Noson Guto Ffowc ddydd Sul 5 Tachwedd, a hoffai'r Cyngor annog pawb i fod yn ddiogel ac ystyried pobl eraill wrth fwynhau eleni.

I ddathlu, mae grŵp Valley Veterans yn cynnal achlysur sinema, ac maen nhw'n annog pob cyn-filwr lleol i ymuno â'r hwyl. Bydd yr achlysur yn digwydd yn neuadd cymuned Tonpentre am 5pm, sef lleoliad arferol grŵp Valley Veterans. Bydd ffilm boblogaidd yn cael ei chwarae, bydd lluniaeth ar gael a bydd cyfle i gymdeithasu â phobl o'r un anian.

Meddai Paul Bromwell, Prif Weithredwr Valley Veterans: "Mae Valley Veterans wastad wedi dathlu Noson Guto Ffowc mewn ffordd sy'n gynhwysol i'n cyn-filwyr.

"Ar gyfer Noson Guto Ffowc eleni, byddwn ni'n cynnal achlysur heb dân gwyllt gyda digonedd o ffilmiau a lluniaeth er mwyn rhoi man diogel i bawb fwynhau'r noson.

"Bydd croeso i bob aelod o gymuned y Lluoedd Arfog, ond cyn-filwyr yn arbennig, ymuno â ni o 5pm ymlaen ddydd Sul 5 Tachwedd yn neuadd cymuned Tonpentre."

Cofiwch am y 5ed o Dachwedd ac am y rheiny sy'n byw ag anhwylder straen wedi trawma.

Mae Calan Gaeaf a Noson Guto Ffowc yn gyfnod cyffrous i lawer o bobl, ond i eraill gall beri straen a phryder. Mae modd i dân gwyllt, synau uchel, goleuadau llachar a chnocio ar ddrysau fod yn anodd i gyn-filwyr, gan gynnwys nifer ohonyn nhw sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma.

Mae cyfraddau anhwylder straen wedi trawma ymysg cyn-filwyr wedi cynyddu dros y 15 mlynedd diwethaf gyda chwarter ohonyn nhw'n dweud eu bod nhw wedi profi symptomau cyffredinol. Mae'r symptomau yma'n cynnwys methu â chael gwared ar atgofion, hunllefau, poenau corfforol, pyliau o banig ac ofn a llawer yn rhagor. Mae'n bwysig ein bod ni'n ystyriol o'r bobl hynny.

Meddai Dirprwy Arweinydd y Cabinet a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: "Mae'n hyfryd cael gweld cynifer o bobl yn ymgynnull i fwynhau Noson Guto Ffowc. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn deall bod yr achlysur yma'n un gofidus i eraill, yn enwedig cyn-filwyr.

"Mae'n wych cael gweld bod achlysuron tân gwyllt am ddim sy'n gynhwysol i bobl sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma yn digwydd gan fod nifer o'r rheiny'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'r synau uchel a'r golau llachar sy'n cael eu creu gan dân gwyllt.

"Rwy'n siŵr y bydd Noson Guto Ffowc Valley Veterans yn fan tawel a diogel i bawb gael mwynhau."

Mae Valley Veterans yn grŵp gwirfoddol cymunedol sy'n cael ei arwain gan gyn-filwyr ac mae’n darparu cymorth i gyn-filwyr ledled Rhondda Cynon Taf. Cafodd y grŵp ei sefydlu dros 16 mlynedd yn ôl a chaiff ei gefnogi gan y Cyngor, sy'n darparu cymorth gydag iechyd meddwl, Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), a chymorth cymunedol arall.

I gael rhagor o wybodaeth am Valley Veterans, ebostiwch y grŵp enquiries@valleyveterans.org neu ffoniwch 07733 896 128.

Mae hi hefyd yn gyfnod prysur iawn i'n Gwasanaethau Brys. Mae tân gwyllt yn beryglus iawn os nad oes oedolyn cyfrifol yn eu trin nhw'n gywir, a gall coelcerthi ledaenu'n gyflym os nad ydyn nhw'n cael eu rheoli. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog pawb i fod yn ofalus eleni.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i gadw'n ddiogel, ewch i https://www.decymru-tan.gov.uk/ystafell-newyddion/newyddion/arhoswch-gartref-cadwch-yn-ddiogel-noson-tan-gwyllt-eleni/

Wedi ei bostio ar 01/11/23