Skip to main content

Mae'n amser prysur o'r flwyddyn yn Nhaith Pyllau Glo Cymru

Easter2023

Mae'r achlysur bythol boblogaidd Ŵy-a-sbri yn ôl! Eleni mae'r achlysur yn cael ei gynnal ddydd Mercher 5 Ebrill a dydd Iau 6 Ebrill felly dewch draw am ychydig o hwyl gwyliau'r Pasg yng nghanol yr wythnos! 

Yn ystod deuddydd yr ŵyl, bydd gweithgareddau megis Helfa Wyau Pasg a chelf a chrefftau am ddim ond £3 y plentyn, a £2 i oedolion sy'n dod gyda'u plant.  Bydd ffair fach yno hefyd ac fe fydd y reidiau am ddim gyda'r tocyn mynediad.  

Yn ogystal â'r hwyl ar wyneb y ddaear, mae Antur Danddaearol Bwni'r Pasg yng nghwmni tywysydd yn ôl ar gyfer 2023 ble bydd ymwelydd arbennig iawn yn aros yn ei ogof i gwrdd â chi!  Pris tocyn ar gyfer Antur Danddaearol Bwni'r Pasg yw £5. Mae hyn yn cynnwys pâr o glustiau cwningen i bob fforiwr craff. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth: “Mae achlysur Ŵy-a-sbri y Pasg yn ffordd wych o gychwyn y calendr achlysuron blynyddol yn Nhaith Pyllau Glo Cymru. 

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr rheolaidd a newydd sbon i un o’r atyniadau twristiaeth gorau yma yn Rhondda Cynon Taf – ac wrth gwrs estynnwn groeso cynnes iawn i Fwni’r Pasg a fydd yn ymweld â ni am y tro cyntaf erioed.  

“Mae diwrnod allan gwych i'w gael yn Nhaith Pyllau Glo Cymru bob tro; o'r daith dywys danddaearol boblogaidd gyda'i thaith dram rithwir, i bori'r arddangosfeydd rhad ac am ddim i ymlacio yng Nghaffi Bracchi gyda choffi neu de prynhawn, mae digon o resymau i ymweld dro ar ôl tro. 

“Diolch yn fawr iawn i Nathanial Cars am noddi’r achlysur am yr ail flwyddyn yn olynol, gan wneud yn siŵr bod Achlysur Ŵy-a-Sbri, a'n hachlysuron eraill, yn brofiadau llawn hwyl i'r gymuned gyfan.” 

Mae tocynnau ar werth yma

Nodwch:

Mae'r Helfa Wyau Pasg ac Antur Danddaearol Bwni'r Pasg ill dwy yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.  Dydy hi ddim yn bosibl mynd â phramiau dan ddaear gan nad oes digon o le.

 

Fydd Taith yr Aur Du ddim ar gael trwy gydol achlysur Ŵy-a-sbri y Pasg.

 

Bydd Taith Pyllau Glo Cymru ar agor ar ddydd Gwener y Groglith ac wedi cau Dydd Sul y Pasg a dydd Llun Pasg Gŵyl y Banc.

Wedi ei bostio ar 09/03/23