Skip to main content

73 o brosiectau wedi'u cymeradwyo ar gyfer cyfran o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a rhagor o Grantiau Cymunedol wedi'u cyhoeddi

Mae 73 o brosiectau cymunedol ar draws Rhondda Cynon Taf wedi cael cyllid yn rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Cafodd sefydliadau a grwpiau cymunedol lleol eu gwahodd i wneud cais am arian o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy ein Grant Cymunedol. Byddwn ni'n cysylltu â phob ymgeisydd yn y dyddiau nesaf i roi gwybod iddyn nhw os bu eu prosiect yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllid.

Daeth cyfanswm o 156 o geisiadau i law, gyda chyfanswm cyfunol y prosiectau gwerth tua £12 miliwn. Aeth pob cais drwy broses gwneud penderfyniadau anodd gan fod gwerth y prosiectau yn llawer uwch na'r dyraniad cyllid a gawson ni gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Asesodd swyddogion y ceisiadau yn erbyn y meini prawf asesu cyhoeddedig, y gynrychiolaeth ddaearyddol, y meysydd thematig a'r data cenedlaethol.

Rydyn ni'n deall y bydd rhai sefydliadau wedi siomi, ac mae ein Carfan Datblygu'r Gymuned yn gweithio gydag Interlink RhCT i roi cymorth parhaus i bob sefydliad er mwyn cryfhau ceisiadau i’n Grant Cymunedol neu gyfleoedd ariannu allanol eraill yn y dyfodol.

Serch hynny, mewn ymateb i’r galw enfawr gan sefydliadau a grwpiau cymunedol, rydyn ni wedi dyrannu cyllid ychwanegol i gefnogi rhagor o brosiectau.

Rydyn ni wedi sicrhau bod £165,000 ar gael ar gyfer Grantiau Cymunedol ychwanegol, ac £160,000 yn rhagor i'r Rhwydwaith Cymdogaeth, y Gronfa Fwyd, a Microgrant Cymunedol newydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin, gan sicrhau bod gweithgarwch sydd o deilyngdod, o werth ac sy'n diwallu anghenion y gymuned yn derbyn cyllid.

Bydd y grantiau bach hyn yn agor ar gyfer ceisiadau erbyn diwedd Mehefin 2023.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Rydw i wedi fy syfrdanu gan nifer y ceisiadau rydyn ni wedi’u derbyn gan sefydliadau a grwpiau cymunedol ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

“Yn amlwg, mae’r galw wedi bod yn fwy na’r cyflenwad, ond rydw i’n falch y byddwn ni'n rhoi grantiau ychwanegol, yn ychwanegol i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, i gefnogi rhagor o brosiectau yn ein cymunedau.

“Rydw i’n deall y bydd rhai sefydliadau a grwpiau wedi siomi, fodd bynnag, rwy’n eich annog chi i gyd i gysylltu â’n Carfan Datblygu'r Gymuned ac Interlink RhCT i gryfhau ceisiadau yn y dyfodol a gwella'ch siawns o sicrhau cyllid yn y dyfodol.

“Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer prosiectau, ac rydyn ni eisiau i gynifer o’n sefydliadau a'n grwpiau cymunedol elwa o hyn." 

Wedi ei bostio ar 07/06/23