Skip to main content

Gwaith hanfodol i osod goleuadau traffig newydd ar yr A4119 ym Meisgyn

Miskin A4119 traffic lights at School Road and Groesfaen Road

Bydd gwaith gosod cyfres o oleuadau traffig newydd ar yr A4119 ym Meisgyn yn cael ei gynnal dros dair wythnos o 20 Gorffennaf ymlaen - gan ganolbwyntio ar gyffordd Heol yr Ysgol yn gyntaf cyn symud ymlaen i gyffordd Heol Groes-faen.

Bydd angen newid y goleuadau traffig yn y ddau leoliad gan eu bod nhw'n agosáu at ddiwedd eu hoes. Yn rhan o'r gwaith yma, bydd signalau LED newydd yn cael eu gosod er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni a bydd dull newydd o synhwyro cerbydau yn cael ei roi ar waith er mwyn cynyddu llif traffig drwy'r cyffyrdd. Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat Ltd yn gontractwr i gyflawni'r cynllun.

Bydd trigolion a defnyddwyr y ffyrdd yn sylwi ar fesurau rheoli traffig ar gyffordd Heol yr Ysgol – yr A4119 o nos Iau, 20 Gorffennaf ymlaen, am gyfnod o bythefnos. Wedi i'r gwaith yma gael ei gwblhau, bydd y mesurau rheoli traffig yn cael eu symud i gyffordd Heol Groes-faen – yr A4119 o nos Wener, 4 Awst, am wythnos.

Bydd y mesurau rheoli traffig ar ffurf signalau dros dro fydd yn union fel y goleuadau traffig parhaol. O ganlyniad i hyn, fydd dim effaith ar y trefniadau i ddefnyddwyr y ffyrdd yn ystod y rhan fwyaf o’r cynllun.

Bydd tair ffordd ar gau yn rhan o'r cynllun.

Bydd contractwr y Cyngor yn cau lonydd lle bydd angen. Bydd tair ffordd ar gau ar gyfer elfennau o'r gwaith nad oes modd eu cwblhau mewn modd diogel gyda'r ffordd ar agor i gerbydau.

Mae modd bwrw golwg ar y ffyrdd fydd ar gau ar fapiau ar wefan y Cyngor yma, ac mae disgrifiad i'w weld isod. Mae'r gwaith wedi cael ei drefnu ar gyfer y penwythnosau ac yn ystod gwyliau'r haf er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.

  • Ffordd 1 fydd ar gau - troad i'r chwith i Heol yr Ysgol o'r A4119 i gyfeiriad y gogledd. Bydd hyn yn dechrau am 9am ddydd Sadwrn, 22 Gorffennaf ac yn dod i ben am 10pm ddydd Sul, 23 Gorffennaf. Dylai modurwyr deithio i gyfeiriad y gogledd ar hyd yr A4119, cyn defnyddio'r B4264, Ffordd Cefn-yr-Hendy a Heol yr Ysgol. Gweld manylion ffordd 1 fydd ar gau
  • Ffordd 2 fydd ar gau - troad i'r dde i Heol yr Ysgol o'r A4119 i gyfeiriad y de. Bydd hyn yn dechrau am 9am ddydd Sadwrn, 29 Gorffennaf ac yn dod i ben am 10pm ddydd Sul, 30 Gorffennaf. Dylai modurwyr deithio i gyfeiriad y de ar hyd yr A4119, cyn defnyddio cylchfan Cyffordd 34 yr M4 a'r A4119 i gyfeiriad y gogledd. Gweld manylion ffordd 2 fydd ar gau
  • Ffordd 3 fydd ar gau - troad i'r dde i'r A4119 i gyfeiriad y gogledd o Heol Groes-faen. Bydd y ffordd ar gau rhwng 9am a 10pm ddydd Sul, 6 Awst. Dylai modurwyr droi i'r chwith i'r A4119 i gyfeiriad y de, cyn defnyddio cylchfan Cyffordd 34 yr M4 a'r A4119 i gyfeiriad y gogledd. Gweld manylion ffordd 3 fydd ar gau

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Raglen Gyfalaf Priffyrdd y Cyngor ar gyfer 2023/24, a hynny'n rhan o ddyraniad ehangach gwerth £400,000 i foderneiddio signalau traffig. Hoffai'r Cyngor estyn diolch i drigolion a gyrwyr am eu cydweithrediad wrth i'r gwaith hanfodol yma gael ei gwblhau dros yr wythnosau nesaf.

Wedi ei bostio ar 13/07/23