Skip to main content

Gwella'r ddarpariaeth feicio yn Llanilltud Faerdref ac Efail Isaf

Church Village links - Copy

Bydd gwaith yn dechrau i wella cysylltiadau i feicwyr mewn tri lleoliad yn Llanilltud Faerdref ac Efail Isaf. Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio Cyllid teithio llesol Llywodraeth Cymru. Fydd y gwaith ddim yn achosi llawer o darfu yn lleol.

Mae'r Cyngor wedi penodi Calibre Contracting Ltd i gyflawni'r cynllun, a fydd yn dechrau ddydd Llun, 24 Gorffennaf. Ar wahân i fân rwystrau i lwybrau troed, nid oes disgwyl i'r gwaith darfu ar y gymuned. Bydd y cynllun yn para tua wyth wythnos, a bydd yn gwella cysylltiadau beicio yn y lleoliadau canlynol:

  • Ochr ogleddol Ffordd Glas-y-Dorlan yn Llanilltud Faerdref, lle mae'n cwrdd â chylchfan Ffordd Llantrisant. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar ochr ddeheuol y gylchfan (yr ochr sydd agosaf i'r ardal breswyl)
  • Y droedffordd rhwng Ffordd yr Aethnen a Chlod Cefn Glas yn Llanilltud Faerdref, ym mhen gorllewinol Ffordd yr Aethnen. Y llwybr presennol oddi ar Ffordd yr Aethnen, sy'n darparu cysylltiad lleol dros yr afon, fydd yr ardal waith
  • Heol Dowlais a Heol Creigiau yn Efail Isaf – bydd dwy gyffordd gerllaw yn cael eu gwella, yn yr ardal lle mae'r ddwy ffordd yn cwrdd â Bryn y Goron

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth cyfanswm o £3.43 miliwn gan y Gronfa Teithio Llesol yn 2023/24, a hynny er mwyn bwrw ymlaen gyda llawer o gynlluniau a fydd yn gwella llwybrau cerdded a beicio yn y lleoliadau targed. Mae’r cyllid prosiect ar gyfer y gwaith sydd ar y gweill yn Llantilltud Faerdref ac Efail Isaf wedi’i gynnwys yn rhan o ddyraniad craidd y Gronfa.

Mae’r gwaith arfaethedig yn rhan o ystod ehangach o gynigion sydd â’r nod o wella cysylltiadau Teithio Llesol i gyfleusterau cymunedol allweddol yn ardal Pentre’r Eglwys, gan gynnwys i Lwybr Cymunedol Pentre’r Eglwys ac oddi yno.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Unwaith yn rhagor rydyn ni wedi derbyn buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru – a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin – i ddarparu gwelliannau pellach i lwybrau cerdded a beicio drwy'r Gronfa Teithio Llesol. Bydd y cynllun sydd ar y gweill yn Llanilltud Faerdref ac Efail Isaf yn dechrau ar 24 Gorffennaf, a hynny i sefydlu darpariaeth i feicwyr yn y tri lleoliad, ynghyd â'r llwybrau troed presennol.

"Mae'r Cyngor yn parhau i wella ei ddarpariaeth Teithio Llesol yn rhan o'i ymdrech i hyrwyddo cerdded a beicio yn rhan o deithiau bob dydd. Dyma faes buddsoddi sy’n cael ei flaenoriaethu er mwyn helpu i wella iechyd a lles pobl, lleihau tagfeydd traffig, a gwella’r amgylchedd yn unol â’n nodau ac ymrwymiadau newid yn yr hinsawdd.

"Bydd y £3.43 miliwn sydd wedi'i sicrhau gan y Gronfa Teithio Llesol yn 2023/24 yn helpu i gyflawni gwelliannau i'r Llwybr Taith Taf yn y Trallwn, sefydlu llwybr teithio llesol yn Nghwm-bach a bwrw ymlaen â chynlluniau allweddol yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd. Mae cyllid sylweddol hefyd wedi’i sicrhau ar gyfer pum cam o waith yn rhan o lwybr Teithio Llesol Rhondda Fach. Dechreuodd gwaith cam un yn ddiweddar ar y safle ym Maerdy.

"Bydd y cynllun sydd ar y gweill yn Llanilltud Faerdref ac Efail Isaf yn dechrau ddydd Llun, ac mae'r contractwr wedi rhoi gwybod na fydd y gwaith yn achosi llawer o darfu yn lleol, ac eithrio mân rwystrau ar y droedffordd. Hoffwn i ddiolch i'r gymuned am eu cydweithrediad wrth i'r gwelliannau yma fynd rhagddynt."

Wedi ei bostio ar 17/07/23