Skip to main content

Adloniant i bawb yn ein theatrau

Francis-Rossi-web-image

Francis Rossi

Daw'r flwyddyn newydd â llu o sioeau byw a ffilmiau cyffrous i theatrau hanesyddol ac eiconig Theatr y Colisëwm, Aberdâr a Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci. 

Meddai'r Cynghorydd Robert Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: "Rwy'n falch iawn o'r rhaglen amrywiol o adloniant o'r radd flaenaf sy'n dod i'n theatrau ni eleni. 

"Mae'n wych gweld cymaint o enwau mawr y llwyfan a'r sgrîn yn perfformio'n lleol. Dyma dystiolaeth o lwyddiant Theatr y Colisëwm a Theatr y Parc a'r Dâr sydd wedi bod yn rhannau pwysig o'n cymunedau ers blynyddoedd. 

"Yn ogystal â'r sioeau byw cyffrous, mae gyda ni raglen lawn o ffilmiau i bobl o bob oed. 

"Cefnogwch eich theatrau lleol a dewch i fwynhau'r wledd sydd ar gael - mae eleni am fod yn wych." 

Y sioe fyw gyntaf yn Theatr y Colisëwm yw Buffy Revamped: Seventy Minutes. Seven Seasons. One Spike ddydd Sadwrn, 1 Ebrill (8pm) Sioe wedi'i chreu gan Brendan Murphy. Mae’r sioe yma, a oedd yn un o'r ffefrynnau o Ŵyl Ymylol Caeredin, yn dod â 144 pennod o'r rhaglen boblogaidd o'r 1990au, Buffy The Vampire Slayer, i'r llwyfan. 

Sound And Vision: A Tribute To David Bowie, ddydd Gwener, 5 Mai (7:30pm). Dyma ddathliad o gerddoriaeth a bywyd un o arwyr mwyaf y byd pop, yn cynnwys ei holl ganeuon mwyaf poblogaidd. 

A Vision Of Elvis: The Award-Winning Elvis Presley Spectacular ddydd Gwener, 12 Mai (7:30pm) gyda Rob Kingsley. Dyma bortread realistig o gyngerdd byw Elvis yn cynnwys nifer o'i ganeuon enwocaf; It’s Now Or Never, Suspicious Minds, Return To Sender, GI Blues, The Wonder Of You, American Trilogy a llawer mwy. 

Knuckles gyda Paul Black, ddydd Iau, 18 Mai (7:30pm). Dyma gynhyrchiad ar y cyd gan Gurnwah Productions a Theatrau RhCT yn adrodd stori dywyll sy'n seiliedig i ryw raddau ar fywyd Victor 'The Knuckles' Norman. 

Dirty Dusting. Comedi gwych gyda Chrissy Rock (Benidorm), Leah Bell, Vanessa Karon a Paul Dunn ddydd Sadwrn, 17 Mehefin (7:30pm). Mae'n dilyn helyntion tair menyw lanhau 'hen ffasiwn' sy'n dod o hyd i ffordd dwyllodrus o ennill arian ychwanegol. 

Made in Dagenham yw'r cynhyrchiad byw cyntaf i fynd i Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci. Criw talentog o Ysgol Gyfun Treorci fydd yn perfformio'r sioe yma ar 14-16 Chwefror. 

Bydd y digrifwr, Tom Allen, yn dod â'i sioe hynod boblogaidd i Dreorci ddydd Iau, 23 Chwefror (8pm) yn dilyn llwyddiant ei daith ddiwethaf a werthodd dros 50,000 o docynnau, gan gynnwys sioe lawn yn y London Palladium. Mae pob tocyn ar gyfer ei sioe yn Nhreorci wedi'u gwerthu. 

Lee Gilbert: That's Life! ddydd Sadwrn, 11 Mawrth (6pm). Bydd Lee Gilbert a gwesteion arbennig yn dod ynghyd i berfformio rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd Michael Buble a chaneuon enwocaf y West End a Broadway. 

Bydd Mike Bubbins, seren Mammouth, Tourist Trap a The Unexplainers yn dod a'i sioe Throwback i'r llwyfan ddydd Iau, 16 Mawrth (8pm) am noson o gomedi. 

Bydd seren Status Quo, Francis Rossi, yn dod â'i gitâr acwstig i'r theatr ddydd Mawrth, 30 Mai (7:30pm) i berfformio caneuon enwocaf y band ac i siarad am ei yrfa anhygoel dros y 50 mlynedd diwethaf a pherfformiadau anhygoel, gan gynnwys agor sioe Live Aid ym 1985. 

Am ragor o fanylion am yr holl sioeau sy'n dod i Theatr y Colisëwm a Theatr y Parc a'r Dâr, ffoniwch Swyddfa Docynnau Theatrau RhCT ar 03000 040 444 neu bwriwch olwg 

Wedi ei bostio ar 23/01/23