Skip to main content

Mae'r Cabinet wedi cytuno ar newidiadau o ran gwastraff ac ailgylchu

Mae'r Cabinet wedi trafod a chymeradwyo* cynigion gan swyddogion i symud i gasgliadau bagiau du/bin olwynion bob tair wythnos.

Yn ôl ym mis Tachwedd, amlinellodd swyddogion y Cyngor nifer o gynigion allweddol i'r Cabinet a fyddai'n helpu'r Cyngor i fodloni targed Ailgylchu  Llywodraeth Cymru, sef 70%. Yn dilyn y cyfarfod, cytunodd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus am BUM wythnos i gael barn trigolion ar y cynigion cyn i'r Cabinet wneud penderfyniad ar sut i fwrw ymlaen.

Dyma oedd y cynigion gwreiddiol:

  • Bod POB cartref ledled Rhondda Cynon Taf yn newid i gasgliadau bagiau du/biniau olwynion bob tair wythnos. Byddai symud i gasgliadau bob tair wythnos yn cael ei gefnogi trwy barhau â'r cyfyngiadau gwastraff presennol o un bag du yr wythnos fesul cartref (dau bob pythefnos ar hyn o bryd) a symud i dri bag du neu fin olwyn caeedig bob tair wythnos.
  • Treialu bagiau ailgylchu y mae modd eu hailddefnyddio ar gyfer casglu deunydd ailgylchu cymysg sych. Byddai hyn yn gynllun peilot mewn ardaloedd penodol.

Yn dilyn yr adborth a ddaeth i law gan drigolion yn ystod yr ymgynghoriad, diweddarodd swyddogion y cynigion, a chafodd y manylion canlynol eu cynnwys a'u cyflwyno i'r Cabinet. Cafodd y rhain eu cytuno gan y Cabinet.

  • Bin olwynion caeedig 240 litr (DIM GWASTRAFF I'R OCHR) neu fin olwynion 120 litr, gydag 1 bag du ychwanegol o wastraff i'r ochr, bob tair wythnos.

Yn rhan o'r cynigion sydd wedi'u cytuno, bydd y cyfyngiad o 1 bag du yr wythnos i bob aelwyd, sydd ar waith ar hyn o bryd, yn parhau (gan symud o gasglu 2 fag bob pythefnos i 3 bag bob tair wythnos).

Bydd casgliadau cewynnau, gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd (tymhorol) a bagiau clir yn PARHAU i gael eu casglu'n wythnosol. Dylai'r gwastraff yma fod bron i 80% o holl wastraff wythnosol aelwydydd.

Does dim modd i'r Cyngor fforddio dirwyon posibl gan Lywodraeth Cymru os fyddwn ni ddim yn bodloni eu targed ailgylchu o 70% erbyn 2024/25. Rhaid cefnogi ymdrechion Cymru i ddod yn sero net erbyn 2030.

Y gyfradd ailgylchu ar gyfer Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd yw 67.48%. Mae’n rhaid i’r Cyngor weithredu nawr neu wynebu dirwy sylweddol o £140,000 am bob 1% y mae’n methu â’i fodloni – ar hyn o bryd, byddai hynny'n arwain at y Cyngor yn cael dirwy o dros £400,000 y flwyddyn. A hithau'n gyfnod anodd fel y mae hi, gallai'r swm sylweddol yma o arian arwain at doriadau i wasanaethau neu gallai effeithio'n fawr arnyn nhw, a hynny er mwyn talu'r dirwyon.

Mae heriau o'n blaenau ni ar gyfer HOLL wasanaethau'r Cyngor oherwydd effaith economaidd barhaus COVID-19, Brexit, y gwrthdaro yn Wcráin a'r argyfwng costau byw. Mae'r Cyngor hefyd yn wynebu chwyddiant dros 10% a rhagolygon y bydd costau ynni yn treblu y flwyddyn nesaf.

Bydd y cynigion y cytunwyd arnyn nhw bellach yn helpu’r Cyngor i wneud y canlynol:

  • Parhau i ddarparu gwasanaeth ailgylchu llawn BOB WYTHNOS i gyd-fynd â'r newidiadau yma. Bydd hynny'n cynnwys casglu cewynnau, gwastraff bwyd, ailgylchu sych a gwastraff gwyrdd (yn dymhorol) – dylai'r rhain gyfrif am bron i 80% o wastraff wythnosol y cartref. 
  • Arbed cyllid hanfodol gwerth £800,000 mewn costau rhedeg a lleihau ei ôl troed carbon blynyddol yn sylweddol.
  • Byddai unrhyw arbedion yn cael eu dargyfeirio i ddiogelu gwasanaethau allweddol, megis gofal cymdeithasol ac addysg. 

Mae bron un o bob tri o gynghorau yng Nghymru eisoes yn gweithredu'r trefniant yma o gasglu bob tair wythnos yn llwyddiannus, ac mae nifer o gynghorau yng Nghymru wrthi'n ymgynghori ar newidiadau tebyg.

Meddai Roger Waters, Cyfarwyddwr  Gwasanaethau Rheng Flaen Cyngor Rhondda Cynon Taf:

"Rydyn ni wedi gwneud gwaith llwyddiannus iawn dros y ddegawd ddiwethaf o ran ailgylchu, diolch i'n trigolion ni sy'n ailgylchu a'n staff ymroddedig. 

"Hoffwn i bwysleisio y byddwn ni'n parhau i ddarparu gwasanaeth ailgylchu llawn BOB WYTHNOS. Os ydych chi eisoes yn ailgylchu, sy'n wir am dri ym mhob pedwar person yn Rhondda Cynon Taf, mae'r newidiadau yma'n annhebygol o wneud gwahaniaeth mawr i'ch cartref chi ond byddan nhw'n golygu ein bod ni'n osgoi dirwyon yn y dyfodol, yn sicrhau ein bod ni'n bodloni'r targedau gyda'n gilydd, yn diogelu gwasanaethau hanfodol, ac yn cyrraedd y nod i ddod yn 'sero net' erbyn 2030.

"Yn 2013, pan gafodd casgliadau bob pythefnos eu cyflwyno, roedd gyda ni gyfradd ailgylchu o 43.3%. Ar y pryd, roedden ni'n wynebu dirwyon posibl am beidio â bodloni targed Llywodraeth Cymru o 52% ar gyfer 2013 i 2014. Erbyn hyn, mae gyda ni gyfradd ailgylchu o 67.48%, sef cynnydd o 24%! 

"Mae hyn yn dangos bod y newidiadau a gafodd eu rhoi ar waith ar yr adeg yna, law yn llaw ag ymroddiad ein trigolion gwych a'n staff, wedi ein helpu ni i ragori ar darged cyfredol Llywodraeth Cymru, sef ailgylchu o leiaf 64% o wastraff erbyn 2019 i 2020. 

"Bydd y newidiadau sydd wedi'u cytuno yn arbed cyllid hanfodol ac yn helpu i ddiogelu gwasanaethau, tra'n sicrhau ein bod ni'n bodloni targedau Llywodraeth Cymru ac yn lleihau ein hôl troed carbon cyffredinol.

"Gyda'n gilydd, mae angen i ni fodloni'r targed nesaf o 70% erbyn 2024 i 2025 ac osgoi dirwyon sylweddol ar adeg sydd eisoes yn anodd yn ariannol. Rydyn ni wedi ystyried pob dim o fewn ein gallu ac wedi gwneud mân newidiadau i sicrhau y bydd y gwasanaeth newydd yn deg i bob cartref sy'n ailgylchu. Rwy’n mawr obeithio y bydd trigolion yn cefnogi’r newid a fydd yn ein helpu i fodloni’r targed ac i wella ein harferion ailgylchu ar gyfer RhCT.”

Mae rhagor o wybodaeth am gyfarfod y Cabinet ddydd Llun 23 Ionawr ar gael ar-lein: https://rctcbc.moderngov.co.uk/ieListMeetings.aspx?CommitteeId=132&LLL=1  

Wedi ei bostio ar 25/01/23