Skip to main content

Plac Glas i Gofio am Wyrcws Undeb Pontypridd

Blue Plaque 3

Mae Plac Glas wedi cael ei ddadorchuddio gan Faer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Wendy Treeby, ym Mharc Iechyd Dewi Sant, sef safle hen Wyrcws Undeb Pontypridd. 

Mae gan Rondda Cynon Taf nifer o Blaciau Glas ledled y Fwrdeistref Sirol sy'n coffáu bywydau unigolion ac adeiladau sydd o bwys hanesyddol. 

Placiau Glas Rhondda Cynon Taf  

Cafodd y Plac Glas ym Mharc Iechyd Dewi Sant ei ddadorchuddio gan Faer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Wendy Treeby, yng nghwmni Rhodri Powell MBE, cyn Rheolwr Cyfarwyddiaeth Patholeg Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg (1989-2001). Mr Powell a enwebodd leoliad y Plac Glas ar ran Cymdeithas Hanes Lleol Llantrisant a'r Cylch. 

Meddai'r Cynghorydd Wendy Treeby, Maer Rhondda Cynon Taf: "Bydd y Plac Glas yma ym Mharc Iechyd Dewi Sant yn fodd o atgoffa cenedlaethau'r dyfodol bod sylfeini'r ysbyty yma wedi'u hadeiladu ar sylfeini ei ragflaenydd hynod bwysig, sef Wyrcws Undeb Pontypridd. 

"Bydd yn coffáu ac yn tynnu sylw at gyfnod o’n hanes cyn bod unrhyw wasanaethau cymdeithasol ar gael i drigolion yr ardal yma, ac roedd, o bosibl, yn gyfnod o fwy o galedi nag yr ydyn ni'n ei wynebu ar hyn o bryd. 

“Roedd Wyrcws yr Undeb yr un mor hanfodol bryd hynny yn ei rôl o ofalu am y rhai sy'n agored i niwed ag y mae'r gwasanaethau cyfatebol y dyddiau yma.” 

Meddai Rhodri Powell MBE: "Mae’n bleser mawr gen i helpu i ddadorchuddio’r Plac Glas yma ym Mhontypridd, 160 mlynedd ers i’r cytundeb gael ei lofnodi ar gyfer y Wyrcws. Mae'r Plac Glas yma'n coffáu'r rhan arwyddocaol a chwaraeodd y Wyrcws yn hanes yr ardal." 

Cafodd Wyrcws Undeb Pontypridd, sydd wedi'i leoli ger Stryd y Llys rhwng Heol Albert a'r Stryd Fawr, ei adeiladu ym 1865 ar gost £7,000. Erbyn 1900, ehangodd annedd y Wyrcws a chafodd clafdy ac ysbyty ynysu eu hychwanegu. Cafodd swyddfeydd eu hychwanegu yn yr ardal, hefyd. 

Cafodd y Wyrcws ei adnabod yn ddiweddarach fel ‘Central Homes’ ac yna o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, daeth yn Ysbyty Graig. Cafodd yr adeiladau gwreiddiol eu dymchwel ym 1966 a chafodd Parc Iechyd Dewi Sant ei adeiladu ar y safle.

Wedi ei bostio ar 30/01/2023