Skip to main content

Adroddiad ymchwiliad llifogydd Adran 19 ar gyfer storm yn Rhydfelen

Heddiw mae’r Cyngor wedi cyhoeddi adroddiad Adran 19 sy’n canolbwyntio ar achosion llifogydd yn ystod storm mis Hydref 2021 yn Rhydfelen, o dan ei ddyletswyddau a amlinellir yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

Mae'n rhaid i'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, sef Cyngor Rhondda Cynon Taf, ddarparu adroddiad ffeithiol o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod pob achos sylweddol o lifogydd. Digwyddodd y storm, na chafodd ei henwi gan y Swyddfa Dywydd, ar 4 Hydref, 2021, gan arwain at lifogydd mewnol mewn 20 eiddo preswyl yn Rhydfelen, yng Nghwm Taf.

Mae adroddiadau Adran 19 yn cydnabod yr Awdurdodau Rheoli Risg, nodi'r swyddogaethau maen nhw wedi'u cyflawni ac yn amlinellu eu cynigion gweithredu ar gyfer y dyfodol. Cyhoeddwyd adroddiad ar gyfer Rhydfelen ar ddydd Mawrth, 7 Chwefror. Mae'n ystyried archwiliadau a wnaed gan Garfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor, yn ogystal â gwybodaeth gan drigolion lleol, Depo Priffyrdd a Gofal y Strydoedd y Cyngor a Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW).

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor, yma.

Mae'r adroddiad yn sefydlu, o'r dystiolaeth a gasglwyd, mai prif ffynhonnell y llifogydd yn Rhydfelen oedd y dŵr ffo sylweddol yn llifo dros y tir i lawr o'r llechweddau serth uwchben yr ardal. Llifodd dŵr glaw trwm wedyn trwy gyfres o gyrsiau dŵr cyffredin. Cafodd llawer o'r rhain eu llethu gan ddŵr a malurion.

Y Cyngor yw’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn ogystal â’r Awdurdod Draenio Tir. Yn y swyddogaethau yma mae wedi cymryd 12 cam gweithredu ac wedi cynnig wyth arall mewn ymateb i’r storm. Mae'r camau gweithredu hyd yn hyn yn cynnwys gwaith clirio i strwythurau cilfach y cwlfert a nodwyd fel ffynonellau llifogydd.

Mae gwaith arolygu, jetio a glanhau hefyd wedi'i wneud ar tua 134 metr o gwrs dŵr arferol yn yr ardal leol, tra bod llifddorau y mae modd eu hehangu wedi'u cynnig i eiddo lleol sy'n cael eu hystyried o fod mewn perygl o lifogydd. Mae'r Cyngor hefyd wedi arwain ar sefydlu ystafell reoli ganolog i fonitro ceuffosydd allweddol a darparu ymateb aml-asiantaeth gwell yn ystod stormydd yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad hefyd yn cadarnhau y bydd Asesiad Llifogydd Strategol yn cael ei ddatblygu gan y Cyngor i ddeall y dalgylch lleol a'i berygl llifogydd yn well. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o'r dalgylch uchaf yn Rhydfelen, a fydd yn galluogi i argymhellion gael eu dwyn ymlaen i liniaru'r risg o lifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin, dŵr arwyneb a dŵr daear yn lleol.

Daw’r adroddiad i’r casgliad bod pob Awdurdod Rheoli Risg wedi cyflawni eu swyddogaethau rheoli perygl llifogydd yn foddhaol mewn ymateb i lifogydd yn ystod y storm. Mae swyddogaethau pellach wedi'u cynnig i wella parodrwydd ar gyfer stormydd yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi ei Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Adran 19 diweddaraf, sy’n canolbwyntio ar y storm ddienw yn Rhydfelen yn ystod mis Hydref 2021. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r hyn a ddigwyddodd i achosi’r llifogydd, yn nodi’r awdurdodau perthnasol, ac yn adrodd ar y camau y maen nhw wedi’u cymryd a'r camau maen nhw'n bwriadu eu cymryd yn y dyfodol.

“Mae hyn yn dilyn cyhoeddi pob un o’r 19 adroddiad ymchwiliad llifogydd yn ymwneud â Storm Dennis rhwng Gorffennaf 2021 a Hydref 2022 – gan roi sicrwydd i drigolion ein bod ni'n gweithio’n galed iawn i leihau’r perygl o lifogydd mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd. Mae oddeutu £12 miliwn wedi'i wario ar uwchraddio isadeiledd yn y blynyddoedd diwethaf a £15 miliwn ar atgyweiriadau ers Storm Dennis.

“Mae’r Cyngor wedi datblygu rhaglen gyflym o fwy na 100 o gynlluniau lliniaru llifogydd mewn cymunedau, ac mae hanner ohonyn nhw wedi’u cwblhau. Mae arwyddion o’r glaw trwm ym mis Ionawr 2023 yn awgrymu bod y gwaith rydyn ni wedi’i wneud hyd yn hyn wedi bod yn effeithiol, er ein bod ni'n deall bod llawer mwy i’w wneud o hyd. Fe wnaethon ni ddefnyddio'r ystafell reoli newydd ar gyfer y storm ddiweddar, gan ein galluogi ni i ddarparu monitro ac ymatebion mwy cynhwysfawr yn ystod y digwyddiad.

“Mae adroddiad heddiw ar gyfer Rhydfelen yn dod i’r casgliad bod y Cyngor, fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol a’r Awdurdod Draenio Tir, wedi cyflawni ei gyfrifoldebau’n foddhaol. Mae’n amlinellu’r ymateb sydd wedi cynnwys gwaith clirio sylweddol i'r isadeiledd lleol, a’r camau gweithredu arfaethedig ar gyfer y dyfodol – gan gynnwys asesiad trylwyr o’r ardal leol i ddeall y perygl llifogydd yn well.”

Wedi ei bostio ar 07/02/2023